Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking
Cyfarfod: 18/09/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 12)
12 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 96 KB
Pwrpas: I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Cymunedau a Menter a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Draft Forward Work Programme, eitem 12 PDF 149 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Community & Enterprise OSC, eitem 12 PDF 11 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol, ynghyd â’r diweddaraf am y camau gweithredu oedd yn codi o’r cyfarfodydd blaenorol, oedd bellach wedi cael eu cwblhau. Rhoddodd wybod bod y sesiwn hyfforddiant hanner awr am ddiogelu wedi cael ei chynnal cyn y cyfarfod ac felly byddai’n cael ei thynnu o’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.
Gofynnodd y Cynghorydd Ted Palmer pe gellid darparu adroddiad am Hawliau Tenantiaid i Olyniaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol er mwyn adolygu’r polisi cyfredol.
Cododd y Cynghorwyr Hutchinson a Dolphin bryderon am ddyraniadau eiddo a dyraniadau mewn llety gwarchod. Dywedodd yr Hwylusydd bod y Cynghorwyr wedi cytuno mewn cyfarfod blaenorol y byddai adroddiad am Denantiaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei gyflwyno gerbron cyfarfod yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.
(b) Awdurdodi’r Hwylusydd, ar ôl ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.