Mater - cyfarfodydd
Internal Audit Progress Report
Cyfarfod: 29/01/2020 - Pwyllgor Archwilio (eitem 56)
56 Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol PDF 95 KB
Cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr yr Adain Archwilio Mewnol y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â chynnydd yr adain Archwilio Mewnol.
Nid oedd unrhyw adroddiad coch (sicrwydd cyfyngedig) wedi’i gyflwyno ers y cyfarfod diwethaf. Roedd gwybodaeth ar y farn Melyn/Coch (rhywfaint o sicrwydd) ar Gronfa Ddata Grantiau Corfforaethol yn dangos camau gweithredu cytunedig i fynd i’r afael â defnydd anghyson o’r gronfa ddata. O ran olrhain camau gweithredu, roedd 14 o gamau gweithredu gweddillol allan o 88 wedi eu cau ers cyhoeddi’r adroddiad. Cyfeiriodd y Rheolwr Archwilio Mewnol i’r mecanweithiau sydd mewn grym i atgoffa rheolwyr o adborth amserol ar y camau gweithredu a gwblhawyd a oedd yn effeithio ar yr ystadegau. Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf hefyd ar yr adnoddau yn y tîm Archwilio Mewnol fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Amlygodd Sally Ellis bwysigrwydd gweithredu camau ar Gronfa Ddata Grantiau Corfforaethol yng ngoleuni’r gwaith archwilio gan Swyddfa Archwilio Cymru. Wrth nodi y gall y nifer o gamau gweithredu byw fod yn is nac yr adroddwyd, gofynnodd am sicrwydd bod y rhai ar gyfer meysydd blaenoriaeth uchel megis Cronfeydd Ysgolion yn cael eu gweithredu. Eglurodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y gall y camau gweithredu ond gael eu cau unwaith y derbynnir tystiolaeth bod gwaith dilynol wedi cael ei drefnu yn y Cynllun Archwilio. Darparodd y wybodaeth ddiweddaraf yn gryno ar y camau gweithredu oedd wedi eu cwblhau ar Gronfeydd Ysgolion ac roedd yn fodlon gyda’r cynnydd hyd yn hyn.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad.