Mater - cyfarfodydd

Internal Audit Progress Report

Cyfarfod: 20/11/2019 - Pwyllgor Archwilio (eitem 46)

46 Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol pdf icon PDF 142 KB

Cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol ddiweddariad ar gynnydd yr adran Archwilio Mewnol. Rhoddodd drosolwg cryno o’r tri adroddiad oren/coch (rhywfaint o sicrwydd) a gyhoeddwyd ers y cyfarfod diwethaf.

 

Tynnwyd sylw at y nifer sylweddol o gamau oedd yn weddill, efallai bod rhai ohonynt oherwydd bod Prif Swyddogion yn methu rhoi diweddariad. Oherwydd maint yr adroddiad cyffredinol, gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried p’un ai i gyfyngu’r wybodaeth i gamau blaenoriaeth uchel neu uchel/canolig oedd yn weddill a chyfyngu’r camau oedd chwe mis yn hwyr, yr oedd llawer ohonynt yn ymwneud â chamau oedd yn mynd rhagddynt gydag amgylchiadau lliniarol.

 

Yn dilyn cais, trafodwyd pryderon y Pwyllgor am oedi gweithrediad camau gyda’r ddau Brif Swyddog oedd wedi darparu sylwadau yn yr adroddiad.

 

Amlygodd y Cynghorydd Heesom bwysigrwydd cynnwys yr adroddiad oherwydd teimlai y dylai fod wedi’i flaenoriaethu ar yr agenda. Fel Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd, dywedodd nad oedd adroddiad Alltami Stores wedi’i godi.

 

Yn ogystal, darparodd y Rheolwr Archwilio Mewnol ddiweddariad ar adnoddau yn ei thîm a gymhellodd adolygiad o waith yn y Cynllun Archwilio i flaenoriaethu meysydd risg allweddol. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Woolley, dywedodd yr eir i’r afael â’r diffyg mewn adnoddau trwy gynnig cyfle i’r aelodau tîm rhan-amser presennol i ymestyn eu horiau, gyda’r dewis o gyflogi gweithwyr asiantaeth os oedd angen. Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod adnoddau’r tîm yn cael eu hadolygu’n gyson ac os oedd angen, byddai staff asiantaeth yn ychwanegu at y trefniant arfaethedig.

 

Er mwyn cydnabod y gwaith angenrheidiol i gynhyrchu’r wybodaeth yn yr adroddiad, cynigiodd Sally Ellis fod yr adran ar gamau gweithredu hwyr yn canolbwyntio ar faterion coch ac oren risg uchel a bod yr adroddiad oren/coch ar Adferiad Cost Priffyrdd yn cael ei gyfeirio at Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd i’w fonitro.

 

Siaradodd y Cynghorydd Woolley o blaid cadw’r un lefel o fanylder ar gamau gweithredu chwe mis yn hwyr o’r dyddiad gwreiddiol. Awgrymodd y Prif Swyddog fod yr adroddiad yn canolbwyntio ar unrhyw feysydd lle na ddarparwyd rhesymau dilys i geisio barn y Pwyllgor. Cefnogwyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn yr adroddiad;

 

(b)       Bod adroddiadau cynnydd i’r dyfodol yn cael eu crynhoi i gynnwys manylion camau gweithredu hwyr ar gamau blaenoriaeth uchel a chanolig yn unig ac unrhyw feysydd lle na ddarparwyd rhesymau dilys am gamau gweithredu h?n na chwe mis ac sy’n hwyr; a

 

(c)       Bod yr adroddiadau oren/coch ar Alltami Stores ac Adfer Cost Priffyrdd yn cael eu cyfeirio at Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd.