Mater - cyfarfodydd

Flint Landfill and Crumps Yard Solar PV Final Business Cases

Cyfarfod: 10/12/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 50)

Achosion Busnes Terfynol Systemau Solar Safle Tirlenwi’r Fflint a Crumps Yard

Darparu’r achosion busnes terfynol i Aelodau ar gyfer datblygiadau solar yn Safle Tirlenwi’r Fflint a Crumps Yard yn dilyn caniatâd cynllunio ac ymarfer tendro i bennu’r costau cyfalaf. Aelodau i adolygu’r achosion busnes i sicrhau eu bod yn gadarn cyn i’r Cabinet eu hadolygu’n derfynol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad am yr achosion busnes terfynol ar gyfer cynigion i ddatblygu datblygiadau paneli solar ffotofoltäig ar ddau safle tir llwyd (Safle Tirlenwi'r Fflint ac Iard Crumps) yn dilyn casgliad gweithgareddau dwys cyn-datblygu. Roedd caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer y datblygiad yn Safle Tirlenwi’r Fflint, a disgwyliwyd penderfyniad am Iard Crumps ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd. Amlinellodd y Cynghorydd Bithell y prif ystyriaethau o’r adroddiad gan gynnwys nifer o fanteision ariannol ac amgylcheddol o’r cynllun a fyddai’n cyfrannu at flaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad yn darparu gwybodaeth dechnegol ac ariannol fanwl am y cynllun.

 

Cyflwynwyd y Peiriannydd Arbed Ynni (Sadie Waterhouse) i’r Pwyllgor, a ddarparodd eglurder o ran y goblygiadau ariannol, gofynion contract a buddion cymunedol. Yn dilyn cais gan y Cadeirydd, cytunodd i ddosbarthu cynlluniau lleoliad safle i’r Pwyllgor.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai Aelodau’n croesawu rhagor o fanylion am y buddion cymunedol. Siaradodd y Prif Swyddog am newid o ran y strategaeth gaffael i sicrhau buddion amgylcheddol ehangach.

 

Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i swyddogion am yr adroddiad a chroesawodd ei gyfraniad cadarnhaol tuag at newid hinsawdd.

 

Cynigodd y Cynghorydd Shotton gymeradwyo’r argymhelliad, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi’r Prosiect a’r Achos Busnes ar gyfer datblygu Iard Crumps, Cei Connah, a Safle Tirlenwi’r Fflint ar gyfer defnydd solar ffotofoltäig ar y ddaear.