Mater - cyfarfodydd
Flint Landfill and Crumps Yard Solar PV Final Business Cases
Cyfarfod: 10/12/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 50)
Achosion Busnes Terfynol Systemau Solar Safle Tirlenwi’r Fflint a Crumps Yard
Darparu’r achosion busnes terfynol i Aelodau ar gyfer datblygiadau solar yn Safle Tirlenwi’r Fflint a Crumps Yard yn dilyn caniatâd cynllunio ac ymarfer tendro i bennu’r costau cyfalaf. Aelodau i adolygu’r achosion busnes i sicrhau eu bod yn gadarn cyn i’r Cabinet eu hadolygu’n derfynol.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (50/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (50/3)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (50/4)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad am yr achosion busnes terfynol ar gyfer cynigion i ddatblygu datblygiadau paneli solar ffotofoltäig ar ddau safle tir llwyd (Safle Tirlenwi'r Fflint ac Iard Crumps) yn dilyn casgliad gweithgareddau dwys cyn-datblygu. Roedd caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer y datblygiad yn Safle Tirlenwi’r Fflint, a disgwyliwyd penderfyniad am Iard Crumps ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd. Amlinellodd y Cynghorydd Bithell y prif ystyriaethau o’r adroddiad gan gynnwys nifer o fanteision ariannol ac amgylcheddol o’r cynllun a fyddai’n cyfrannu at flaenoriaethau lleol a chenedlaethol.
Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad yn darparu gwybodaeth dechnegol ac ariannol fanwl am y cynllun.
Cyflwynwyd y Peiriannydd Arbed Ynni (Sadie Waterhouse) i’r Pwyllgor, a ddarparodd eglurder o ran y goblygiadau ariannol, gofynion contract a buddion cymunedol. Yn dilyn cais gan y Cadeirydd, cytunodd i ddosbarthu cynlluniau lleoliad safle i’r Pwyllgor.
Dywedodd y Cadeirydd y byddai Aelodau’n croesawu rhagor o fanylion am y buddion cymunedol. Siaradodd y Prif Swyddog am newid o ran y strategaeth gaffael i sicrhau buddion amgylcheddol ehangach.
Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i swyddogion am yr adroddiad a chroesawodd ei gyfraniad cadarnhaol tuag at newid hinsawdd.
Cynigodd y Cynghorydd Shotton gymeradwyo’r argymhelliad, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Dunbobbin.
PENDERFYNWYD:
Cefnogi’r Prosiect a’r Achos Busnes ar gyfer datblygu Iard Crumps, Cei Connah, a Safle Tirlenwi’r Fflint ar gyfer defnydd solar ffotofoltäig ar y ddaear.