Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2019/20 Month 4 and Capital Programme Monitoring 2019/20 Month 4 and Significant Variances (Out of County Placements, Children's Services and School Transport)

Cyfarfod: 19/09/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 42)

42 Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 Mis 4 a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2019/2020 Mis 4 ac Amrywiadau Sylweddol (Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir, Gwasanaethau Plant a Chludiant i'r Ysgol) pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth ar Fonitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 4) a Chwarter 1 Monitro’r Rhaglen Gyfalaf 2019/20.

 

Adrodd ar orwariant sylweddol o fewn Lleoliadau Tu Allan i’r Sir, Gwasanaethau Plant a Chludiant Ysgol o gyllideb Cronfa'r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa'r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a diweddariad am Raglen Gyfalaf 2019/20 ym mis 4.  Yn unol â’r cais, rhannwyd adroddiad am yr amrywiadau arwyddocaol mewn Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, Gwasanaethau Plant a Chludiant i’r Ysgol hefyd.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

 O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i ostwng pwysau costau a gwella’r elw o gynllunio effeithlonrwydd - yn ddiffyg gweithredol o £2.983m, sef gostyngiad o £0.118m ers mis Gorffennaf. Roedd y balans a ragwelir ar gyfer cronfeydd wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn yn £1.886m. Roedd y meysydd gorwariant ar gyfer Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, Gwasanaethau Plant a Chludiant i’r Ysgol yn cael eu gwrthbwyso’n rhannol gan danwariant mewn Cyllid Canolog a Chorfforaethol.   Rhagwelir y byddai cyfanswm terfynol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gytbwys pe bai'r Cabinet yn cymeradwyo'r argymhelliad i drosglwyddo £0.250m i Wasanaethau Oedolion o’r Gwasanaethau Adnoddau a Rheoleiddio i gyflawni newidiadau yn y galw am wasanaeth. Byddai’r holl feysydd gwario dianghenraid yn parhau i gael eu hadolygu er mwyn gostwng y gorwariant cyffredinol a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn.

 

 Byddi’r gyfradd gyflawni o 90% a ragwelir ar gyfer arbedion a gynllunnir yn ystod y flwyddyn yn cynyddu i 91% pe bai’r Cabinet yn cytuno i ail-osod cyfnodau’r effeithlonrwydd o Gymhorthdal Aura.

 

Yn dilyn newidiadau i fformat yr adroddiad, dangosodd diweddariad am bwysau ysgolion y sefyllfa o ran diffygion mewn ysgolion uwchradd a fyddai’n cael eu monitro’n agos.

 

Ar y Cyfrif Refeniw Tai, rhagwelir y byddai gwariant yn ystod y flwyddyn £0.081m yn uwch na’r gyllideb, gan adael balans o £1.242m ar ddiwedd y flwyddyn sy’n uwch na’r lefel isaf a argymhellir.

 

Wrth groesawu'r newid yn fformat yr adroddiad, holodd y Cynghorydd Heesom pam nad oes cronfeydd wrth gefn a oedd heb eu clustnodi ar gyfer y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) a’r Tîm Cyswllt Dioddefwyr o dan eu meysydd portffolio. Esboniodd y Prif Weithredwr bod y ddau wedi cael eu cynnwys fel pwysau yng nghyllideb 2019/20 – fel y cytunwyd gan Aelodau – ac y byddai’r symiau ychwanegol hyn yn ateb gofynion deddfwriaethol newydd ac yn cynyddu capasiti i ddiwallu anghenion pobl ifanc ddiamddiffyn. Cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y symiau’n cael eu dyrannu i’r Gwasanaethau Cymdeithasol o’r Gronfa Arian at Raid yn ystod y flwyddyn. Cytunodd Swyddogion ddarparu adroddiad ar y costau sy’n gysylltiedig â SuDS yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Jones ar fformat yr adroddiad, eglurwyd bod y tabl yn gosod allan y sefyllfa gyffredinol ac y byddai’r naratif yn canolbwyntio ar amrywiadau arwyddocaol uwchben lefel a gytunwyd o £0.100m, gyda manylion llawn yr holl amrywiadau yn yr atodiad. Siaradodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) am wneud llai o ddefnydd o weithwyr asiantaeth yn ei bortffolio a oedd yn aml yn anochel.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Wisinger ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Heesom.

 

Rhaglen Gyfalaf

 

Roedd y rhaglen  ...  view the full Cofnodion text for item 42