Mater - cyfarfodydd

Foster Carers Adaptations Policy

Cyfarfod: 14/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 38)

38 Newidiadau i'r Polisi Cartref Gofalwyr Maeth pdf icon PDF 285 KB

Pwrpas:        Amlinellusut y gellir cefnogi mwy o deuluoedd i gael mynediad i’r Cynnig Gofal Plant 30 awr a chynigion ar gyfer buddsoddiad cyfalaf yn y gwaith hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y  Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad ar gynigion i gyflwyno ‘Polisi Addasiadau i Gartrefi Gofalwyr Maeth’ i roi cyfrifoldeb i Sir y Fflint a’r plant i gael mwy o ddewis ac opsiynau o leoliadau a all gynnig gwell gwerth am arian i’r Awdurdod. 

 

            Eglurodd y Prif Swyddog mewn rhai amgylchiadau bod amgylchedd cartref gofalwyr maeth yn cyfyngu ar gyfleoedd lleoliad. Mae’r Polisi yn ceisio cyflwyno cynllun grant sydd yn cynnig cefnogaeth ariannol i ofalwyr maeth i wneud addasiadau i’w cartrefi presennol, neu gymorth ariannol tuag at brynu eiddo newydd mwy neu un mwy addas (hyd at werth £36,000 ar gyfer addasiadau neu £20,000 i ail-leoli i eiddo newydd). Byddai’r grant yn destun telerau ac amodau a amlinellir mewn Cytundeb Cymorth Ariannol a byddai adfachiad yn berthnasol dan amodau penodol i ddiogelu cyllid cyhoeddus. 

 

            Gofynnodd y Cadeirydd os oedd y Gofalwyr Maeth a oedd wedi cymryd rhan yn y cynllun yn gallu cael sicrwydd yswiriant i sicrhau costau ad-dalu os byddai angen. Tynnodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu sylw at yr wybodaeth a ddarparwyd ar y Cyllid Grant ar gyfer Addasiadau yn y Polisi arfaethedig a oedd wedi’i atodi i’r adroddiad. Dywedodd bod gan Sir y Fflint ddisgresiwn i hawlildio hyd at £10,000 o gyllid grant, yn ddibynnol ar asesiad ariannol y gofalwr maeth a/neu berchennog eiddo, a’r trefniadau lleoli plentyn arfaethedig.Dywedodd bod Gofalwyr Maeth yn cael eu hannog a’u cefnogi’n ariannol i geisio cyngor ariannol annibynnol cyn ymuno â’r cynllun. Pwysleisiodd yr Uwch Reolwr mai bwriad y cynllun oedd cynorthwyo Gofalwyr Maeth gyda’r gost o wneud addasiadau i’w cartref ac i ddarparu lle digonol i blant a phobl ifanc fyw a ffynnu dan eu gofal. Bwriad y cyllid oedd ategu ystod o wasanaethau cefnogi a ddarperir i Ofalwyr Maeth. 

 

            Awgrymodd y Cynghorydd David Mackie i dynnu'r gair ‘adfachiad’ o’r polisi gan y teimlai bod y gair 'ad-daladwy' yn fwy priodol. Hefyd cyfeiriodd at y telerau ac amodau ynghlwm â’r ddarpariaeth o gyllid drwy Grantiau Cyfleuster Anabl ac awgrymodd bod angen ystyried wrth weithredu'r un broses i roi cyllid ar gyfer addasiadau.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at y DFG ac awgrymodd bod aelodau o’r Pwyllgor yn cael eu gwahodd i fynychu cyfarfod o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter. Cytunodd y Pwyllgor i hyn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Gladys Healey i gefnogi’r argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Dave Mackie.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Polisi Addasiadau i Gartrefi Gofalwyr Maeth yn cael ei gefnogi.