Mater - cyfarfodydd
Council Tax Base for 2020/21
Cyfarfod: 19/11/2019 - Cabinet (eitem 100)
100 Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2020/21 PDF 122 KB
Pwrpas: Cymeradwyo Sylfaen Treth y Cyngor am flwyddyn ariannol 2020/21 fel rhan o broses gosod y gyllideb refeniw a gosod Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn newydd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ynghylch y Sylfaen ar gyfer Treth y Cyngor 2020/21 ac esboniodd fod gosod y sylfaen yn rhan annatod o’r broses o osod y gyllideb refeniw a Threth y Cyngor ar gyfer 2020/21 ac yn caniatáu i’r Cyngor, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Chynghorau Tref a Chymuned gyfrifo praesept Treth y Cyngor.
Roedd y Sylfaen ar gyfer 2020/21 wedi’i chyfrifo ar 64,554 eiddo cyfwerth â Band D, ar ôl ystyried cyfanswm yr eiddo a fyddai’n destun Treth y Cyngor, heb gynnwys y rhai a oedd wedi’u heithrio rhag talu Treth y Cyngor neu lle’r oedd gostyngiad i aelwyd yn berthnasol.
Roedd gosod Sylfaen Treth y Cyngor ar 64,554 hefyd yn cynrychioli twf o 0.37% o ran y sylfaen o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, sydd yn gyfwerth â chynnydd o 237 o eiddo cyfwerth â Band D.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Sylfaen Drethu ar gyfer 64,554 eiddo sy’n gyfwerth â Band D at ddibenion gosod y dreth ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21 yn cael ei chymeradwyo.
(b) Bod y Cyngor yn parhau i osod ‘dim’ gostyngiad ar gyfer eiddo o fewn unrhyw un o’r Dosbarthiadau Rhagnodedig (A, B neu C) a bod hyn yn berthnasol i holl ardal y Sir; a
(c) Bod y Cyngor yn parhau i osod Premiwm o 50% ar gyfer eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi o fewn y cynllun Premiwm Treth Y Cyngor.