Mater - cyfarfodydd

Employment and Workforce Quarterly update

Cyfarfod: 14/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 65)

65 Diweddariad chwarterol Cyflogaeth a’r Gweithlu pdf icon PDF 188 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys diweddariadau strategol yn ogystal ag ystadegau chwarterol y gweithlu a dadansoddiad ohonynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad gwybodaeth y gweithlu ar Chwarter 2 2019/20 a ganolbwyntiodd ar berfformiad a thueddiadau sefydliadol.

 

O ran presenoldeb, roedd y tîm yn parhau i weithio’n agos gyda’r gwasanaethau i wella ffigurau. Yn dilyn dadansoddi’r rhesymau am absenoldeb, byddai ychwanegu categori ar brofedigaeth yn rhoi mwy o eglurder ac yn helpu targedu cymorth priodol i’r unigolion hynny. Adroddwyd cynnydd da ar gwblhau arfarniadau lle creodd y model arfarnu newydd adborth cychwynnol cadarnhaol a fyddai’n cael ei rannu gydag Aelodau, ar ôl iddo gael ei gwblhau. Canlyniadau cadarnhaol eraill oedd gostyngiad yn nifer y lleoliadau i weithwyr asiantaeth gweithgar a gweithredu model cyflog newydd.

 

Croesawodd y Cynghorydd Cunningham y newidiadau i gategoreiddio absenoldeb. Cynigiodd yr argymhelliad ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo Adroddiad Gwybodaeth Cyflogaeth a’r Gweithlu ar gyfer Chwarter 2 2019/20 i 30 Medi 2019.