Mater - cyfarfodydd
Continuing NHS Healthcare (CHC) in Wales Consultation
Cyfarfod: 18/07/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 16)
16 Ymgynghoriad Gofal Iechyd Parhaus y GIG yng Nghymru PDF 230 KB
Pwrpas: Darparu gwybodaeth i Aelodau ynghylch ymateb bwriedig y Cyngor i Ymgynghoriad Gofal Iechyd Parhaus Llywodraeth Cymru. |
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 Consultation Adults, eitem 16 PDF 377 KB
- Appendix 2 Consultation Children's, eitem 16 PDF 1021 KB
- Appendix 3 Framework, eitem 16 PDF 2 MB
- Appendix 4 Support Tool, eitem 16 PDF 709 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Diogelu a Chomisiynu, adroddiad i ddarparu gwybodaeth ar ymatebion arfaethedig y Cyngor i ymgynghoriad CHC i Lywodraeth Cymru. Rhoddodd wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at y prif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad, ynghylch Gofal Iechyd Parhaus yn Sir y Fflint, ymateb cyntaf Sir y Fflint i’r ymgynghoriad CHC Oedolion, ac ymateb cyntaf Sir y Fflint i ymgynghoriad CHC Plant a Phobl Ifanc.
Gwahoddodd yr Uwch-Reolwr, Diogelu a Chomisiynu Gareth Jones, y Swyddog Cynllunio a Datblygu - Gwasanaethau Cymdeithasol i roi cyflwyniad ar Fframwaith Cenedlaethol yr Ymgynghoriad Gofal Iechyd GIG Parhaus. Roedd y cyflwyniad yn trafod y prif bwyntiau a ganlyn:
- beth yw Gofal Iechyd Parhaus (CHC)
- Ymgynghoriad CHC Oedolion – crynodeb o newidiadau (Llywodraeth Cymru)
- safbwyntiau cychwynnol o weithlu (Oedolion) Sir y Fflint
- sut mae meysydd gofal gwahanol yn cael eu rhannu i lefelau o angen
- safbwyntiau ychwanegol ac adborth
- gwahaniaeth rhwng ethos Taliadau Uniongyrchol
- cyfraniad personol ychwanegol
- safbwyntiau cyntaf gan weithlu Sir y Fflint (Plant a Phobl Ifanc)
- y camau nesaf
- argymhellion
Diolchodd y Cadeirydd i Mr Jones am ei gyflwyniad a gwahoddodd Aelodau i ofyn cwestiynau.
Rhoddodd y Cynghorydd Paul Cunningham sylw ar y swm sy’n ddyledus gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’r Awdurdod, lle'r oedd y rhaniad yn y costau gofal a gytunwyd i CHC yn destun dadl gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Eglurodd yr Uwch-Reolwr, Diogelu a Chomisiynu bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a bydd taliad yn dod i law pan fydd penderfyniad wedi’i nweud ar unrhyw achosion sy’n ddyledus.
Mewn ymateb i’r sylwadau a phryderon a godwyd gan y pwyllgor, cytunwyd y byddai’r Aelodau yn codi ymwybyddiaeth o'r ymgynghoriad drwy rwydweithiau proffesiynol a phersonol, a bod ymateb ar y cyd i’r ymgynghoriad yn cael ei anfon ar ran y Pwyllgor.
PENDERFYNIAD:
(a) Bod yr Aelodau yn ymwybodol o sefyllfa Sir y Fflint ac yn cael eu hysbysu’n ddigonol i ymateb i’r ymgynghoriadau fel unigolion;
(b) Bod yr Aelodau yn codi ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad â rhwydweithiau proffesiynol a phersonol; a
(c) Bod ymateb ar y cyd yn cael ei anfon ar ran y Pwyllgor.