Mater - cyfarfodydd

Safeguarding in Education Self Evaluation Report

Cyfarfod: 25/07/2019 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 9)

9 Adroddiad Hunanwerthuso Diogelu mewn Addysg pdf icon PDF 113 KB

Pwrpas:        Cyflwyno adroddiad hunanwerthuso Diogelu’r Awdurdod Lleol ar gyfer y Portffolio Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad a chyfeiriodd at adroddiad diweddar gan Estyn ar Wasanaethau Llywodraeth Leol. Fel rhan o’r broses hon roedd Sir y Fflint wedi cyflwyno adroddiad hunanwerthuso o’n gwasanaethau addysg a hunanwerthusiad ar wahân o’r ffordd rydym yn cyflawni ein cyfrifoldebau diogelu. Roedd yr adroddiad hwnnw ynghlwm a byddai Estyn yn cyhoeddi ei adroddiad ar 9fed Awst. Roedd y Prif Swyddog yn awyddus i roi sicrwydd i’r Aelodau bod gweithdrefnau cadarn yn eu lle i gyflawni diogelu. Rhoddodd wybodaeth am yr adroddiadau a dderbyniwyd gan y Pwyllgor a’r rhaglen hyfforddiant a pholisïau ar gyfer ysgolion. Roedd Gwasanaethau Cymdeithasol Conwy wedi gweithredu fel pâr arall o lygaid ac wedi adolygu ein Polisi Hunanwerthuso ac roeddem yn falch iawn o’r adborth a dderbyniwyd, a’r ffaith ei fod yn bodloni’r holl ofynion statudol.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at bobl ifanc sy’n absennol o’r ysgol a dywedodd mai cyfrifoldeb Sir y Fflint oedd monitro hyn. Gofynnodd pa lwybr fyddai’n cael ei ddilyn petai gan rywun bryderon a phetai angen tynnu sylw’r ysgolion a’r gwasanaethau cymdeithasol at y mater. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod presenoldeb yn rhan annatod o’r ysgol ac os nad oedd plentyn yn bresennol yna dylai’r ysgol gymryd cyfrifoldeb dros geisio darganfod y rhesymau dros yr absenoldeb. Roedd y Gwasanaeth Lles Addysg yn rhoi cymorth i ysgolion ac roedd gan bob ysgol Swyddog Lles Addysg a oedd yn gweithio gyda nhw i wirio’r cofrestri a byddai’r rhain o bosibl yn gwybod am y plentyn hwnnw’n barod. Yna dylai ysgolion gysylltu â’r rhieni a dylent weithredu polisi adrodd am absenoldeb ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb, gan olygu y dylai rhieni roi gwybod i’r ysgol os nad oedd y plentyn yn mynd i ddod i’r ysgol.  Trwy’r ysgolion, a gyda chymorth y swyddogion, byddai unrhyw bryderon posibl yn cael eu codi’n awtomatig gyda’r Gwasanaethau Plant.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey pa fesurau oedd wedi cael eu rhoi ar waith ar gyfer ymdrin ag iechyd meddwl mewn ysgolion a faint o seicolegwyr plant oedd yn Sir y Fflint. Mewn ymateb, cyfeiriodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) at waith y gr?p llywio sy’n goruchwylio iechyd meddwl. Mae aelodau’r gr?p llywio yn cynnwys gwahanol bartneriaid a chynrychiolwyr o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS). Roedd gan bob ysgol uwchradd swyddog CAMHS dynodedig i gyfarfod disgyblion unigol a rhoi cyngor iddynt. Lluniwyd pecyn Atal Hunan-niweidio er mwyn helpu Staff addysgu ar adeg o argyfwng a’u cyfeirio at gyswllt yn CAMHS. Rhoddodd wybodaeth am y rhaglen 5 ffordd at lesiant ac esboniodd sut roedd y rhaglen yn cael ei chyflwyno ar draws Sir y Fflint. O ran Seicolegwyr Addysgol, dywedodd fod gennym 5.5 (cyfwerth amser llawn) seciolegydd plant.  Nid seicolegwyr clinigol oedd y rhain gan y byddai’r cymorth hwnnw yn cael ei roi gan y Bwrdd Iechyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y dylid nodi’r adroddiad.