Mater - cyfarfodydd

Educational Attainment of Looked After Children in Flintshire

Cyfarfod: 25/07/2019 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 6)

6 Cyrhaeddiad Addysgol Plant sy'n Derbyn Gofal yn Sir y Fflint pdf icon PDF 235 KB

Pwrpas:        Derbyn Adroddiad Cyrhaeddiad Blynyddol Plant sy’n Derbyn Gofal.

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) yr adroddiad a chyfeiriodd at y crynodeb gweithredol a oedd yn cynnwys manylion y canlyniadau. Darparwyd y diffiniad gan Lywodraeth Cymru a’r dyddiad cau oedd 16eg Ionawr, 2019.  Os oedd unigolyn ifanc yn derbyn gofal erbyn y dyddiad hwn, yna roedd y canlyniadau hynny yn berthnasol iddo.  Yna, cyfeiriodd Aelodau at bwynt 1.02 yn yr adroddiad a oedd yn rhoi manylion am y mannau lle’r oedd disgyblion yn cael eu lleoli (gan gadw cynifer â phosibl mewn ysgolion prif ffrwd gyda 110 o’r 140 o ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd). Yna, rhoddodd wybodaeth am y canlyniadau, cyfraddau presenoldeb a gwaharddiadau ynghyd â dyraniad y grant datblygu disgyblion sy’n cael ei ddyrannu i’r plant er mwyn i’r ysgol gael cyllid ar gyfer bwrseriaethau neu er mwyn cydweithio er budd rhagor o blant.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at dudalen 198 lle’r oedd 5 o’r plant sy’n derbyn gofal heb ennill cymwysterau cyfnod allweddol 2 a gofynnodd pa fesurau gafodd eu rhoi ar waith i gynorthwyo’r plant hyn. Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) fod gwahanol fathau o gymorth yn cael eu darparu, er enghraifft llythrennedd a chymorth therapiwtig.

 

            Nododd y Cynghorydd Dave Mackie fod y canlyniadau yn well na’r hyn a welwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac roedd yn gobeithio y byddai hyn yn parhau. Roedd yn credu bod y pwyllgor wedi cytuno i edrych ar hyn ar sail “Gwerth Ychwanegol” oherwydd roedd yn teimlo byddai rhoi esboniad ehangach o’r rhesymau pam nad oedd y canlyniadau mor dda yn rhoi gwell esboniad.  Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) mai’r fformat hwn a ddefnyddiwyd y llynedd ond y gellid cyflwyno’r adroddiad gan gynnwys “gwerth ychwanegol” yn y dyfodol. Roedd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yn deall pwynt y Cynghorydd Mackie ac awgrymodd y gellid darparu ffigyrau cyffredinol yn y dyfodol ynghyd â rhai astudiaethau achos a oedd yn tynnu sylw at bwynt cychwynnol a therfynol er mwyn cyflwyno gwybodaeth ar y gwerth ychwanegol. 

 

            Dywedodd y Cynghorydd Dave Healey wrth y Pwyllgor fod Shaun Hingston, aelod cyfetholedig o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a chynrychiolydd Cyngor Ieuenctid Sir y Fflint, wedi gwneud cais i gyflwyno’r datganiad canlynol yn ei absenoldeb.

 

“Mae’r datganiad canlynol yn amlinellu ei farn ar yr eitemau ar yr agenda yn ymwneud â Phlant sy’n Derbyn Gofal a’u cyrhaeddiad addysgol. Dywed: ‘Rwyf yn credu’n gryf fod y Strategaeth Cymorth a Lleoliad Ddrafft 2019-2020 yn strategaeth sy’n amlinellu’n glir yr hyn mae angen i’r Awdurdod Lleol hwn ei wneud er mwyn parhau i wneud gwaith rhagorol o ran sicrhau diogelwch, a chyrhaeddiad academaidd plant sy’n derbyn gofal. Mae’r ffigyrau a gyflwynir yn y strategaeth yn adlewyrchu gallu’r Cyngor hwn i gwrdd â’r safonau uchel mae’n eu gosod ar gyfer ei hun ac y mae’n rhaid iddo eu dilyn yn unol â’r ddeddwriaeth.

 

‘Yr hyn sydd wedi gwneud argraff fawr arnaf yw lefel yr ymgynghori sydd wedi bod gyda phobl ifanc a’r pwyslais clir  ...  view the full Cofnodion text for item 6