Mater - cyfarfodydd

Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018

Cyfarfod: 25/07/2019 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 10)

10 Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 pdf icon PDF 134 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar Newidiadau Deddfwriaethol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (ALNET) a dderbyniodd gydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr 2018, ac a gaiff ei rhoi ar waith ym mis Medi 2020.  Esboniodd fod angen llawer o waith i sicrhau bod ysgolion a phartneriaid yn barod a rhoddodd wybodaeth am amcanion cyffredinol y Ddeddf.  Cyhoeddwyd Cod drafft sy’n amlinellu dyletswyddau gweithredol y Ddeddf ac a oedd yn amodol ar ymgynghoriad yn gynharach eleni.  Lluniwyd ymateb gan y Cyngor a oedd yn cynnwys mewnbwn gan amryw o bartneriaid gan gynnwys y Cyngor Ieuenctid. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ymatebion yr ymgynghoriad ac mae disgwyl i’r Cod terfynol gael ei gyflwyno gerbron y Cynulliad yn yr hydref gyda’r nod o’i gyhoeddi erbyn diwedd mis Rhagfyr 2019.  Oherwydd yr amserlen hon, esboniodd fod y tîm wedi cael adnoddau ychwanegol i sicrhau bod cymorth di-dor ar gael i’r bobl ifanc pan ddaw’r ddeddf i rym.  Lluniwyd cynllun gweddnewid ar gyfer y Cyngor, fodd bynnag, mae’r amserlen yn dynn iawn o ystyried dyddiad cyhoeddi arfaethedig y Cod terfynol.

 

Roedd yn destun pryder bod y Ddeddf hon wedi cael ei disgrifio gan Lywodraeth Cymru fel un niwtral o ran cost ond bydd ei goblygiadau o ran adnoddau yn ddifrifol iawn i’r Cyngor. 

 

Yna aeth yr Uwch Reolwr ati i restru’r goblygiadau i’r Cyngor yn sgil y newidiadau hyn:-

 

·         Er enghraifft, roedd angen cael Swyddog Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer y blynyddoedd cynnar i adnabod y plant ag anghenion dysgu ychwanegol a rhoi darpariaeth ym mhob lleoliad, ac nid yw hyn yn rhywbeth sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd.

 

·         Roedd yn ofynnol i gael cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol ym mhob ysgol; yn yr achosion hynny lle mae’r pennaeth yn cyflawni’r rôl hon ar hyn o bryd, mae’n debygol y bydd yn rhaid i rywun arall ei chyflawni o ystyried y cyfrifoldebau ychwanegol fydd yn cael eu rhoi i’r ysgolion gan y Ddeddf.

 

·         Bydd yr ystod oedran yn codi i 25 oed, gan gynnwys rhoi cymorth i bobl ifanc mewn addysg bellach; ar hyn o bryd, mae gwasanaethau yn rhoi cymorth i bobl ifanc hyd at 19 oed sy’n mynychu ysgol.

 

·         Y ddyletswydd i gomisiynu darpariaeth arbenigol ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed; Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am hyn ar hyn o bryd. Rhoddwyd gwybodaeth am y Gweithgor a fyddai’n ystyried y mecanwaith ar gyfer ariannu’r ddarpariaeth hon. Bydd y ddyletswydd hon yn dod i rym o 2021 ymlaen.

 

·         Byddai’r Swyddog Plant sy’n Derbyn Gofal yn gyfrifol am ysgrifennu’r Cynlluniau Datblygu Unigol – ar hyn o bryd mae’r Datganiad Anghenion Dysgu Arbennig yn cael ei ysgrifennu gan yr awdurdod lle mae’r plentyn sy’n derbyn gofal yn byw, fodd bynnag, o dan y Ddeddf newydd swyddogion Sir y Fflint fydd yn gyfrifol am y gwaith hwn. 

 

·         Gallai’r Cyngor fod yn gyfrifol am nodi anghenion dysgu ychwanegol pobl ifanc yn y ddalfa – byddai’r ddarpariaeth yn cael ei rhoi ar waith ar  ...  view the full Cofnodion text for item 10