Mater - cyfarfodydd

Review of Streetscene Standards

Cyfarfod: 16/07/2019 - Cabinet (eitem 45)

45 Adolygu Safonau Strydwedd pdf icon PDF 95 KB

Pwrpas:         Gofyn i’r Cabinet gymeradwyo safonau gweithredol Strydwedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr Adolygiad o Safonau Strydlun ac esboniodd nad oedd y safonau wedi’u hadolygu ers 2012.

 

                        Roedd y safonau a gymeradwywyd gan y Cabinet yn 2012 yn ffurfio sail adroddiad perfformiad chwarterol y portffolio, a oedd yn destun gwaith craffu gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Cabinet.

 

                        Roedd Cynllun diweddaredig y Cyngor 2019 yn cynnwys mesur perfformiad newydd o safonau Strydlun fel rhan o’r Cyngor Diogel a Glân ac, o ganlyniad, byddai allbwn uniongyrchol y portffolio yn cael ei adrodd drwy’r broses Trosolwg a Chraffu.

 

                        Cynhaliwyd adolygiad o’r safonau hefyd oherwydd, er gwaethaf newidiadau sylweddol i gwmpas y portffolio, nid oedd y safonau wedi newid ers saith mlynedd.  Nid oedd rhai o’r safonau yn berthnasol mwyach ac nid oedd rhai meysydd gwasanaeth newydd Strydlun a Thrafnidiaeth wedi’u cynrychioli.

 

                        Esboniodd y Prif Swyddog (Strydlun a Thrafnidiaeth) bod y safonau arfaethedig wedi’u cyflwyno yng nghyfarfod diweddar Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd ac roeddent wedi’u cefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

            Y byddai’r safonau gwasanaeth Strydlun a nodwyd yn Atodiad yn cael eu mabwysiadu, gan gynnwys yr ychwanegiadau arfaethedig i’r rhestr ddiwygiedig o ganlyniad i’r newidiadau i’r portffolio.