Mater - cyfarfodydd

Fees and Charges

Cyfarfod: 16/07/2019 - Cabinet (eitem 38)

38 Ffioedd a Thaliadau pdf icon PDF 260 KB

Pwrpas:         Argymell adolygiad o ffioedd a thaliadau a rhoi amlinelliad o gynllun prosiectau incwm tair blynedd a fydd yn cefnogi strategaeth ariannol tymor canolig y sefydliad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn cynnig fframwaith polisi a oedd yn cynnwys strwythur codi taliadau cyson ar draws pob maes gwasanaeth.

 

                        Esboniodd y Rheolwr Cynhyrchu Incwm a Marchnata bod canlyniad yr adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau wedi’i gyflwyno yn Atodiad A yr adroddiad.  Amlinellwyd y graddau yr oedd costau llawn yn cael ei adfer ar gyfer pob tâl.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnig dull o fynegeio’r holl ffioedd a thaliadau yn flynyddol.

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog (Strydlun a Thrafnidiaeth)  ei bod wedi bod yn uchelgais ers tro i grynhoi’r holl ffioedd a thaliadau mewn un lle ac i’w hadolygu’n flynyddol.  Roedd y llifoedd incwm newydd a nodwyd yn yr adroddiad yn rhan o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

                        Cynigiwyd i gynyddu’r tâl am y gwasanaeth casglu gwastraff gardd o rhwng £2 i £5 y tymor, yn ddibynnol ar y dull talu a ddewiswyd a’r dyddiad y derbyniwyd y taliad gan y Cyngor.  Roedd hyn yn adlewyrchu’r gost gynyddol o ddarparu’r gwasanaeth a byddai’n cynyddu’r lefelau incwm arfaethedig o rhwng £70,000 a £130,000 y flwyddyn.

 

Roedd tâl arfaethedig ar gyfer y Pecynnau Seremonïau Bwyd/Diod newydd o dan y Gwasanaethau Cofrestru.  Amcangyfrifwyd y byddai hyn yn cynhyrchu incwm ychwanegol o tua £580 yn 2019/20 a £850 yn 2020/21.

 

                        Byddai’r tâl newydd ar gyfer ar gyfer trosglwyddo gweinyddiaeth perchnogaeth beddau yn cael ei gadarnhau.  Fodd bynnag, roedd taliadau cymharol mewn Cynghorau eraill yn amrywio o £30 i £55 ar gyfer y gwasanaeth.  Yn seiliedig ar y galw presennol, byddai cyflwyno tâl o £30 yn cynhyrchu tua £15,600 y flwyddyn a byddai tâl o £55 yn codi £28,600 y flwyddyn.

 

                        Dywedodd y Cynghorydd Bithell y dylai’r gwasanaethau disgresiynol gael eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru am nad oedd awdurdodau lleol yn derbyn cyllid digonol mwyach i ariannu materion o’r fath.  Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod taliadau o’r fath yn cael eu gorfodi ar y Cyngor oherwydd y cyni parhaus ac roedd y Cyngor yn cydnabod yr effaith ar y cyhoedd.  Pwysleisiodd bod y gwasanaethau yn cael eu cynnig er mwyn adennill costau ac nid er mwyn creu elw, gyda mynegeio synhwyrol.

 

PENDERFYNWYD:

           

            (a)       I gymeradwyo’r ffioedd a’r taliadau a amlinellwyd yn Atodiad A;

 

(b)       I gymeradwyo’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr, gan gynnwys costau tai perchen-feddianwyr, fel y mynegai chwyddiant blynyddol i’w defnyddio ar gyfer cynyddu ffioedd a thaliadau pan fydd yn briodol gwneud hynny (neu gyfradd y farchnad/cymharol/dewis pan fydd yn berthnasol) ynghyd â’r cyfnod gweithredu chwyddiant arfaethedig a nodir yn Atodiad A;

 

(c)        Bod angen gwaith pellach i sefydlu a fyddai’n bosibl adennill y costau llawn (adfer costau uniongyrchol ac anuniongyrchol) ar gyfer yr holl wasanaethau i’w cefnogi, pan ganiateir iddynt wneud hynny;

 

(d)       I gymeradwyo adolygiad pellach o’r Polisi Cynhyrchu Incwm presennol, gyda’r bwriad i ddatblygu fframwaith polisi ar gyfer cynhyrchu incwm, i gynnwys strwythur codi taliadau ac adennill costau cyson;

 

(e)       I gymeradwyo adolygiad blynyddol o’r ffioedd a’r taliadau, gan gynnwys adroddiad blynyddol ym mis Gorffennaf bob blwyddyn, gan nodi’r ffioedd a’r taliadau arfaethedig ar  ...  view the full Cofnodion text for item 38