Mater - cyfarfodydd

Flintshire Deposit Local Development Plan (2015-2030)

Cyfarfod: 23/07/2019 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 31)

31 Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint i’w Archwilio gan y Cyhoedd (2015-2030) pdf icon PDF 201 KB

Pwrpas:        I alluogi Aelodau i gymeradwyo Cynllun Datblygu Lleol i’w Archwilio gan y Cyhoedd (CDLl, atodiad 1) yn unol ag argymhellion y Cabinet, i gael ei symud ymlaen ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn unol â'r terfynau amser yn y Cytundeb Cyflawni Newydd (Mehefin 2019).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl datgan cysylltiad personol a oedd yn rhagfarnu ynghynt, gadawodd y Cynghorwyr Bob Connah, David Healey, Gladys Healey, Joe Johnson, Ralph Small ac Andy Williams y Siambr cyn cychwyn trafod yr eitem hon.

 

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i geisio cymeradwyaeth i’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) i’w archwilio gan y cyhoedd ar gyfer y cyfnod 2015-2030 a oedd i gael ei gyflwyno i’r cyhoedd i ymgynghori arno rhwng 30 Medi ac 11 Tachwedd 2019, fel roedd y Cabinet wedi’i argymell. Roedd hon yn garreg filltir allweddol i alluogi i’r cyhoedd a budd-ddeiliaid eraill wneud sylwadau ar y Cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd yn rhan o’r amserlen i’r Cyngor gyflawni ei ddyletswydd statudol i fabwysiadu CDLl terfynol.

 

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Strategaeth gyflwyniad manwl yn trafod y canlynol:

 

·         Beth yw’r CDLl

·         Amserlen y CDLl

·         Y CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd

·         Beth mae’r Cynllun yn ei gynrychioli

·         Dogfennau ategol

·         Heriau wrth barhau

·         Ffocws cyson ar gyfer Gr?p y Strategaeth Gynllunio

·         Pwrpas yr ymgynghoriad cyhoeddus

·         Materion a fyddai’n debygol o fod yn rhai dadleuol

·         Cynnydd tai a dyraniadau

·         Sut rydym wedi dewis safleoedd

·         Dyraniadau tai’r CDLl

·         Darpariaeth ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr

·         Darparu isadeiledd

·         Profion cadernid

·         Cymeradwyo’r CDLl i’w archwilio i ymgynghori arno

·         Pwysigrwydd cymeradwyo’r CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd

·         Beth sy’n digwydd ar ôl i’r cyhoedd ei archwilio

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Strategaeth bod hyn yn ganlyniad gwaith sylweddol a wnaed i ddatblygu Cynllun a oedd yn addas i’r diben, yn gadarn ac yn gwneud y mwyaf o’r strategaeth dwf gan gael yr effaith leiaf bosib’ ar gymunedau. Canmolodd y gwaith cadarnhaol a fu yng Ngr?p y Strategaeth Gynllunio ar y mater cymhleth hwn a dywedodd bod ymagwedd y Cyngor at ddarparu tai wedi helpu i ategu ei sefyllfa ynghlwm â’r CDLl.

 

Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i’r Rheolwr Gwasanaeth a’i dîm am eu gwaith a chanmolodd Aelodau Gr?p y Strategaeth Gynllunio a gadeiriwyd gan y Cynghorydd Bithell a gan y Cynghorydd Attridge cyn hynny.

 

Yn ystod y drafodaeth a fu wedyn, diolchodd nifer o’r Aelodau i’r tîm o swyddogion am eu proffesiynoldeb a’u diwydrwydd. Soniodd Aelodau o Gr?p y Strategaeth Gynllunio am effeithiolrwydd y Gr?p wrth wneud penderfyniadau, a diolchwyd iddynt hwythau hefyd am eu cyfraniadau at y broses.

 

Fel Cadeirydd Gr?p y Strategaeth Gynllunio, diolchodd y Cynghorydd Bithell i’r tîm o swyddogion am eu gwaith cynhwysfawr ar y Cynllun ac hefyd i gyd-aelodau ar Gr?p trawsbleidiol y Strategaeth Gynllunio.  Wrth bwysleisio pwysigrwydd parhau i wneud cynnydd ar yr amserlen, dywedodd bod nifer o’r safleoedd posib’ eisoes yn rhai cyhoeddus, wedi’u haddasu gan fân newidiadau a wnaed i ffiniau’r Rhwystr Glas ac aneddiadau. Nododd ganlyniad yr Asesiad Ynni Adnewyddadwy a oedd i’w adrodd yn ôl i’r Cyngor fis Medi cyn dechrau’r broses ymgynghori gyhoeddus a’r cyfleoedd i Aelodau wneud sylwadau penodol yn nes ymlaen yn y broses fel yr eglurwyd gan y swyddogion.

 

Fel Is-gadeirydd Gr?p y Strategaeth Gynllunio, eiliodd y Cynghorydd Peers y cynnig nad  ...  view the full Cofnodion text for item 31