Mater - cyfarfodydd

Supplementary Financial Information to Draft Statement of Accounts 2018/19

Cyfarfod: 10/07/2019 - Pwyllgor Archwilio (eitem 17)

17 Gwybodaeth Ariannol Atodol i Ddatganiad Cyfrifon Drafft 2018/19 pdf icon PDF 159 KB

Darparu gwybodaeth ariannol atodol i’r Aelodau i gyd-fynd â’r datganiad cyfrifon drafft, yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a gymeradwywyd yn flaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr wybodaeth ariannol atodol i Ddatganiad Cyfrifon drafft 2018/19, yn unol â’r cais a wnaethpwyd yn y Rhybudd o Gynnig a gymeradwywyd gan y Cyngor yn 2013.

 

Roedd y wybodaeth yngl?n â swyddi a oedd yn benodiadau dros dro’n dangos y symiau a dalwyd i sefydliadau am drefniadau o’r fath ac nid oedd o reidrwydd yn adlewyrchu cyflogau’r rhai dan sylw.  Roedd y costau am ymgynghorwyr a swyddi nad oeddent yn rhai parhaol ar draws y Cyngor yn cynnwys costau blynyddol damcaniaethol pe cyflogid y bobl dan sylw am y flwyddyn gyfan, yn ogystal â’r costau gwirioneddol a ysgwyddid.

 

Cynigodd y Cynghorydd Woolley gymeradwyo’r argymhellion, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.