Mater - cyfarfodydd
Draft Statement of Accounts 2018/19
Cyfarfod: 10/07/2019 - Pwyllgor Archwilio (eitem 16)
16 Datganiad Cyfrifon Drafft 2018/19 PDF 116 KB
Cyflwyno Datganiad Cyfrifon drafft 2018/19 er gwybodaeth yr Aelodau yn unig ar hyn o bryd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Ddatganiad Cyfrifon drafft 2018/19 (yn amodol ar eu harchwilio), a hynny dim ond er gwybodaeth am y tro. Roedd y datganiad yn cynnwys y cyfrifon Gr?p, gan gynnwys is-gwmnïau ym mherchnogaeth lwyr y Cyngor, a’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol a drafodwyd yn y cyfarfod blaenorol. Derbynnid y cyfrifon terfynol wedi’u harchwilio ar 11 Medi i’w cymeradwyo a’u hargymell i'r Cyngor Sir ar yr un diwrnod, er mwyn eu cyhoeddi erbyn 15 Medi, a oedd cyn y dyddiad cau statudol ar gyfer cyhoeddi, sy’n gynharach eleni.
Rhoes y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Cyllid - Cyfrifyddiaeth Dechnegol gyflwyniad ar y cyd yngl?n â'r materion canlynol:
· Pwrpas y Cyfrifon a’r Cefndir
· Cynnwys a Throsolwg
· Cyfrifoldeb am y Cyfrifon
· Gr?p Llywodraethu Cyfrifon
· Cysylltiadau â Monitro’r Gyllideb
· Penawdau – Cronfa'r Cyngor, Cronfeydd Refeniw Wrth Gefn, Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai
· Newidiadau yng Nghyfrifon 2018/19
· Cyfrifon Gr?p
· Amserlen a Chamau Nesaf
· Effaith y Terfynau Amser Cynharach
· Cyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd.
Roedd Mr. Mike Whiteley o Swyddfa Archwilio Cymru’n falch o weld bod swyddogion yn dal i gydweithredu wrth baratoi ar gyfer yr archwiliad, a dywedodd nad oedd unrhyw broblemau o bwys wedi dod i’r amlwg hyd hynny. Cynhelid archwiliad ‘ysgafn’ o’r tri is-gwmni gan nad oedd Swyddfa Archwilio Cymru o’r farn eu bod yn ‘arwyddocaol’ yn ôl y rheoliadau archwilio. Pe byddai meysydd penodol yn peri pryder wrth i’r archwiliad fynd yn ei flaen, gwneid gwaith ychwanegol ar hynny.
O ran nodyn 28 (partïon cysylltiedig), mynegodd Sally Ellis bryderon yngl?n â dyled gynyddol y Bwrdd Iechyd Lleol i’r Cyngor. Gan gydnabod y cysylltiadau rhwng y ddau gorff cyhoeddus dan sylw, awgrymodd y gellid cyfeirio’r mater at Bwyllgor Trosolwg a Chraffu. Wrth roi cefndir ar y mater, rhoes y Prif Weithredwr sicrwydd fod y mater wedi’i godi gyda’r Bwrdd Iechyd a’i drafod ar lefel uchel. Er y bu gostyngiad yn y swm a oedd yn ddyledus, awgrymodd y gallai’r Pwyllgor ofyn iddo ysgrifennu llythyr ffurfiol i godi’r mater, o safbwynt llif arian a risg. Siaradodd Sally Ellis o blaid hynny.
Gofynnodd y Cadeirydd am sicrwydd fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymwybodol o’r mater. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Pwyllgor yn ymwybodol o’r ffactorau oedd wedi cyfrannu at hyn, ond y byddai hefyd yn cyfleu’r pryderon iddo er mwyn sicrhau fod gwaith monitro’n parhau.
Dywedodd y Prif Swyddog mai’r swm yn y cyfrifon oedd yr hyn a oedd yn ddyledus pan y’u paratowyd, ac mai dyled y Bwrdd Iechyd mewn gwirionedd oedd £680,000. Dywedodd y câi’r mater ei amlygu drwy gr?p cyswllt y Pwyllgor Archwilio â Chadeiryddion Trosolwg a Chraffu.
O ran y cyfrifon Gr?p, awgrymodd Sally Ellis y byddai’n fuddiol i gynnwys crynodeb o unrhyw risgiau penodol yng nghyfrifon y tri is-gwmni, ac yn enwedig felly unrhyw faterion a allai effeithio ar y cyfrifon craidd.
Rhoes y Prif Weithredwr sicrwydd yngl?n â Chynyrchiadau Theatr Clwyd Cyf, a sefydlwyd fel cwmni masnachu er mwyn cael gostyngiadau ... view the full Cofnodion text for item 16