Mater - cyfarfodydd

Regional School Effectiveness and Improvement Service (GwE)

Cyfarfod: 27/06/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 14)

14 Gwasanaeth Effeithlonrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE) pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        I gael diweddariad ar gynnydd o ran  datblygu gwasanaeth rhanbarthol gwella ac effeithiolrwydd ysgolion, a diweddariad ar sut mae’r model newydd yn cael ei dderbyn a’i sefydlu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, a Mr Marc Berw Hughes i’r cyfarfod.

 

                      Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad i ddarparu diweddariad ar gynnydd datblygu gwasanaeth effeithlonrwydd a gwella ysgolion rhanbarthol a sut mae’r model newydd yn cael ei dderbyn a’i sefydlu.Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod Adroddiad Blynyddol GwE ar gyfer 2018-19 yn darparu trosolwg manwl o waith y Gwasanaeth Gwella Ysgolion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.Mae’n ymdrin â sawl maes gan gynnwys safonau, darpariaeth, cyfraniad y gwasanaeth at y rhaglen drawsnewid genedlaethol, gweithio mewn partneriaeth a materion busnes.Mae’r atodiadau i’r adroddiad yn darparu rhywfaint o wybodaeth benodol am ganlyniadau dysgwyr a safonau addysg yn Sir y Fflint.Maent hefyd yn darparu dadansoddiad o ymateb arweinwyr ysgol Sir y Fflint a’u barn am effeithiolrwydd y Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol, a gasglwyd yn ddiweddar drwy holiadur.Mae’r prif feysydd i’w datblygu, a nodwyd drwy’r prosesau hunanwerthuso a gynhaliwyd o fewn GwE, yn flaenoriaethau yn y Cynllun Busnes ar gyfer 2019-2020.

 

Dywedodd y Prif Swyddog y dylid darllen yr Adroddiad Blynyddol ar y cyd ag adroddiad hunanwerthuso’r Awdurdod, a gyflwynwyd i’r Aelodau yn ystod y cyfarfod diwethaf.Eglurodd fod swyddogion GwE wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda’r Awdurdod Lleol i ddatblygu’r adroddiad hwnnw, sy’n darparu barn gynhwysfawr ar ansawdd gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint ac yn dangos y gwaith partneriaeth effeithiol sy’n digwydd i gefnogi holl ysgolion yr Awdurdod i wella a chael y canlyniadau gorau ar gyfer dysgwyr Sir y Fflint.

 

            Cyfeiriodd y Prif Swyddog at arolwg diweddar Estyn o wasanaethau addysg yr awdurdod lleol a dywedodd y bydd canlyniad yr arolwg yn cael ei gyhoeddi ar 9 Awst 2019.Diolchodd am y cyfraniad aruthrol sydd wedi’i wneud gan GwE at y broses arolygu a soniodd am y berthynas waith agos rhwng swyddogion GwE a’r Awdurdod.Gwahoddodd y Prif Swyddog Arwyn Thomas i gyflwyno Adroddiad Blynyddol 2018-19 GwE.

 

            Dywedodd Mr Thomas, fel y nodir yng Nghytundeb Rhyng-Awdurdod GwE, y byddai GwE yn adrodd yn flynyddol ar berfformiad y gwasanaeth wrth ddarparu swyddogaethau’r gwasanaeth a chyrraedd nodau allweddol.Dywedodd fod adroddiad blynyddol GwE yn darparu trosolwg o’r meysydd canlynol:cefndir a chyd-destun, safonau, darpariaeth, y daith ddiwygio, gweithio mewn partneriaeth, busnes a blaenoriaethau cynllun busnes ar gyfer 2019-20. Hefyd, mae’n cynnwys sawl atodiad sy’n cyfeirio’n benodol at y gwaith cefnogi a wneir yn ysgolion Sir y Fflint.

 

Soniodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Addysg am y gwaith rhwng yr Awdurdod a GwE i geisio gwella ysgolion os oes angen cymorth arnynt a mynd i’r afael â'r berthynas a rheoli model. Soniodd hefyd am y gwaith agos gydag Aelodau Cabinet gogledd Cymru a Phrif Swyddogion yn dilyn y pryderon a godwyd ynghylch canlyniadau’r arholiad TGAU Saesneg.Diolchodd y Cynghorydd Roberts i Mr Thomas am ei gyflwyniad manwl.

 

Cyfeiriodd Shaun Hingston at Atodiad 2 yr adroddiad, sy’n disgrifio’r newidiadau y mae’n rhaid i ysgolion eu gwneud fel rhai cythryblus sy’n gwasgu ysgolion i’r eithaf. Fodd bynnag, mae Adroddiad Blynyddol GwE yn cydnabod  ...  view the full Cofnodion text for item 14