Mater - cyfarfodydd

Holywell Leisure Centre Community Asset Transfer

Cyfarfod: 01/07/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 14)

Trosglwyddo Ased Cymunedol Canolfan Hamdden Treffynnon

Pwrpas:        Adolygu cynnydd yn ystod 2018/19 ac i ystyried cynlluniau ar gyfer 2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad er mwyn i’r Pwyllgor allu adolygu cynnydd Trosglwyddo Ased Cymunedol Canolfan Hamdden Treffynnon ers ei sefydlu ym mis Ebrill 2017. Darparodd wybodaeth gefndir a chyd-destun a dywedodd fod yr adroddiad yn edrych yn ôl ar y flwyddyn ariannol ddiweddaf, yn adolygu cynllun busnes y flwyddyn ariannol bresennol ac yn darparu'r cynllun busnes ar gyfer 2019/20 i’w ystyried.

 

Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad, a chyfeiriodd at y targedau ar gyfer 2018/19 a’r cynllun busnes, sydd ynghlwm wrth yr adroddiad, sy’n nodi’r blaenoriaethau allweddol, y cynllun gweithredu a’r cynigion ariannol hyd at 2020/21. 

 

Mynegodd y Cynghorydd David Wisinger bryderon ynghylch cost y gwaith atgyweirio a chynnal a chadw sy’n rhaid ei wneud ar yr adeilad.

 

Yn ystod y drafodaeth, soniodd yr Aelodau am y cymorth refeniw a ddarparwyd gan y Cyngor i Ganolfan Hamdden Treffynnon. Cynigodd y Cynghorydd Janet Axworthy fod y cyllid cymorth refeniw yn cael ei ddarparu tu hwnt i 2019/20 ac o bosib yn cynyddu.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie. Pan gafwyd pleidlais, ni chymeradwywyd hyn.  Dywedodd Arweinydd y Cyngor, er ei fod yn cydnabod y gefnogaeth i ddarparu cyllid yn y dyfodol, roedd rhaid i Aelodau fod yn ystyriol o wneud ymrwymiadau heb ystyried manylion lefelau cyllid y Cyngor ar gyfer 2020/21.

 

Mynegodd y Cadeirydd ei ddiolch ar ran y Pwyllgor i’r Ymddiriedolwyr a’r tîm rheoli am y cynnydd a'r llwyddiannau hyd yma a llwyddiant parhaus Canolfan Hamdden Treffynnon. 

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Dave Mackie. 

 

PENDERFYNWYD:

 

            Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Cynllun Busnes ar gyfer Canolfan Hamdden Treffynnon.