Mater - cyfarfodydd
Welfare Reform Update
Cyfarfod: 16/07/2019 - Cabinet (eitem 36)
36 Diweddariad am y Diwygiad Lles PDF 381 KB
Pwrpas: Cefnogi’r adroddiad a’r gwaith parhaus i reoli’r effaith y mae’r Diwygiad Lles yn ei gael ac yn parhau i’w gael ar gartrefi mwyaf diamddiffyn Sir Y Fflint.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn darparu diweddariad ar yr effeithiau yr oedd ‘Gwasanaeth Llawn’ y Credyd Cynhwysol a diwygiadau lles eraill yn eu cael ar breswylwyr Sir y Fflint a bod gwaith yn parhau i leddfu a chynorthwyo’r aelwydydd hynny.
Darparwyd manylion ar y diwygiadau lles presennol o: cael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr, y cap budd-daliadau, y credyd cynhwysol ac effaith y diwygiadau lles yn Sir y Fflint.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas bod y Credyd Cynhwysol yn costio mwy nac unrhyw fudd-dal blaenorol arall i Lywodraeth y DU ond bod pobl yn derbyn llai o fudd-daliadau. Soniodd hefyd am yr amrywiaeth i’r lefel o Gredyd Cynhwysol a dderbyniwyd, nad oedd yn helpu a dywedodd ei bod o’r farn y dylid ei ddiddymu. Roedd yr aelodau’n cytuno â safbwyntiau’r Cynghorydd Thomas.
Holodd y Cynghorydd Bithell sut y gallai’r 546 o denantiaid Tai Cyngor Sir y Fflint sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ac sydd ag ôl-ddyledion rhent (tua £567,000) ddianc y sefyllfa honno. Holodd hefyd beth y gellir ei wneud i sicrhau bod pensiynwyr cymwys yn derbyn y Credyd Pensiwn pan fyddai hynny’n berthnasol. Dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau bod y gwasanaeth yn ymwybodol o’r holl faterion, gan gynnwys ôl-ddyledion rhent, ac esboniodd bod Sir y Fflint yn ardal beilot ar gyfer y Credyd Cynhwysol, a bod yr effeithiau wedi bod yn fwy amlwg ar gam cynnar, o gymharu ag ardaloedd eraill. Byddai’r Tîm Ymateb Llesiant yn parhau i ddarparu cefnogaeth cyllidebu personol i gynorthwyo preswylwyr. O ran pensiynwyr, roedd y tîm yn parhau i fod yn rhagweithiol ac roedd mwy o bensiynwyr cymwys yn hawlio Credyd Pensiwn yn awr.
Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Thomas, cytunwyd y gallai’r Cyngor ysgrifennu at y Gweinidog yn pwysleisio’r hyn a ddysgwyd, a’r problemau a brofwyd fel lleoliad peilot ar gyfer y Credyd Cynhwysol.
PENDERFYNWYD:
(a) I gefnogi’r adroddiad a’r gwaith parhaus i reoli effeithiau y mae, ac y bydd y Diwygiadau Lles yn parhau i’w cael ar aelwydydd mwyaf agored i niwed Sir y Fflint; a
(b) Bydd y Cyngor yn ysgrifennu at y Gweinidog yn pwysleisio’r hyn a ddysgwyd a’r problemau a brofwyd fel lleoliad peilot ar gyfer y Credyd Cynhwysol.