Mater - cyfarfodydd

Homelessness Update on Local Action Plan

Cyfarfod: 16/07/2019 - Cabinet (eitem 35)

35 Diweddariad am Gynllun Gweithredu Lleol ar gyfer Digartrefedd pdf icon PDF 233 KB

Pwrpas:         Cefnogi’r wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Gweithredu Lleol ar gyfer Digartrefedd.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Hughes gyflwyniad i’r adroddiad a oedd yn darparu diweddariad digartrefedd ar y Cynllun Gweithredu Lleol.

 

            Roedd y Cynllun Gweithredu Lleol ar gyfer Sir y Fflint yn dilyn y Strategaeth Ddigartrefedd Ranbarthol gyda’r tri phrif nod canlynol:

 

·         Pobl: Digartrefedd ieuenctid, pobl sy’n cysgu ar y stryd, anghenion cymhleth a phobl sy’n gadael y carchar;

·         Cartrefi: Tai yn gyntaf, mynediad gwell at y cyflenwad o lety a llety dros dro;

·         Gwasanaethau: Atal/ymyrraeth, diwygio lles ac iechyd.

 

Roedd swm sylweddol o waith wedi’i wneud i ddarparu cymorth, cyngor a chyfeirio at rai o’r bobl mwyaf agored i niwed yn y Sir.  Roedd yn faes gwaith heriol a diolchodd i’r swyddogion am y gwaith a wnaethant.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell ar bobl sy’n gadael y carchar, esboniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y byddai’r Cyngor yn gweithio gyda’r rhai a oedd yn breswylwyr yn Sir y Fflint neu’r rhai â chysylltiadau lleol cryf gyda’r ardal.  Gofynnodd y Cynghorydd Bithell hefyd a oedd cynllun yn parhau i fodoli lle byddai cartrefi gwag yn cael eu hailddefnyddio’r o’r newydd ac atebodd y Prif Swyddog y byddai’n gwneud ymholiadau.

 

            PENDERFYNWYD:

 

I gefnogi’r diweddariadau a ddarparwyd yn erbyn y Cynllun Gweithredu Lleol ar gyfer Digartrefedd.