Mater - cyfarfodydd

North Wales Adoption Service Annual Report

Cyfarfod: 16/12/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 45)

45 Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru pdf icon PDF 96 KB

Darparu rhagolwg o berfformiad a safon gwaith y Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn 2018-19. Mae’r adroddiad yn nodi’r heriau ac amcanion y dyfodol ar gyfer 2019-2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i roi trosolwg o berfformiad ac ansawdd gwaith Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru.   Dywedodd bod yr adroddiad yn nodi gweithgareddau allweddol ar gyfer y cyfnod Ebrill 2018 – Mawrth 2019 a darparodd y wybodaeth ddiweddaraf ar ailddylunio/ailstrwythuro Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (2019/2020) a chyflwyno’r elfen gwasanaeth newydd ar ôl mabwysiadu o dymor y Gwanwyn 2020. Gwahoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Adnoddau i gyflwyno’r adroddiad.

 

Darparodd y Rheolwr Gwasanaeth Adnoddau y wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at yr Adroddiad Blynyddol a’r Adolygiad Ansawdd Gofal (2018/19) a’r Achos Busnes ar gyfer ei adolygu gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru a oedd wedi’u hatodi i’r adroddiad. Eglurodd bod yr Adroddiad Blynyddol yn ddogfen eang oedd yn ceisio nodi gwaith a threfniadau cyfreithiol, ariannol a staffio Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru. Adroddodd ar y meysydd allweddol fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Gofynnodd yr aelodau sut oedd Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn cymharu â’r gwasanaeth oedd yn cael ei gynnig i fabwysiadwyr posibl yn y sector preifat.Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Adnoddau nad oedd tystiolaeth i awgrymu bod mabwysiadwyr posibl yn derbyn gwasanaeth gwell na gwaeth yn y sector preifat na’r hyn a ddarparwyd gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru a dywedodd ei fod yn fater o ddewis personol.  Fodd bynnag, nododd ansawdd y gefnogaeth ac arweiniad a ddarperir gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru i fabwysiadwyr.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Paul Cunningham y gwaith ardderchog a gyflawnwyd gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru a’r Panel Mabwysiadu. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Dave Mackie bryderon o ran recriwtio a chyfeiriodd at y cynigion yn yr ‘achos busnes’ oedd ynghlwm yr adroddiad. Ymatebodd y Prif Swyddog i’r cwestiynau a godwyd a dywedodd nad oedd yn ymwybodol o faterion penodol o ran recriwtio o fewn yr Awdurdod cynnal. Wrth wneud sylwadau ar y cynnig yn yr ‘achos busnes’ i greu swyddi ychwanegol, dywedodd bod cyllid grant ar gael gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r gost.  Mewn ymateb i sylwadau a chwestiynau pellach a godwyd gan yr Aelodau, cytunwyd y byddai adroddiad arall i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym Mawrth 2020.

 

Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd David Wisinger ac eiliwyd gan y Cynghorydd Mike Lowe.

 

PENDERFYNWYD: 

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn derbyn yr Adroddiad Blynyddol (Ebrill 2018 – Mawrth 2019);

 

(b)          Nodi’r cynnydd mewn perthynas ag Adolygiad Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (Hydref 2019); a

 

(c)          Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad diwygiedig ar Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru ym Mawrth 2020