Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2019/20

Cyfarfod: 18/06/2019 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 21)

21 Cynllun y Cyngor 2019/20 pdf icon PDF 133 KB

Pwrpas:        Mabwysiadu Rhan 1 o Gynllun y Cyngor 2019/20 yn unol ag argymhelliad y Cabinet.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i fabwysiadu argymhellion y Cabinet ar Ran 1 o Gynllun y Cyngor 2019/20.  Rhoddodd wybodaeth gefndir fel y manylir yn yr adroddiad, a dywedodd fod Cynllun y Cyngor yn Gynllun statudol oedd yn rhaid ei gymeradwyo erbyn diwedd Mehefin. Roedd adborth ar y Cynllun drafft wedi’i dderbyn gan weithidai Aelodau mewnol, arolwg, a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Diolchodd y Prif Weithredwr am eu cyfraniad. Roedd eu hawgrymiadau cadarnhaol oedd wedi’u cynnwys os oeddent o bwys, o safbwynt swyddogaethau’r Cyngor, a byddai modd eu gweithredu’n ymarferol o fewn y flwyddyn. Dywedodd fod Rhan 1 o’r Cynllun wedi’i chyflwyno ar ei ffurf derfynol i’w gymeradwyo, fel yr argymhellwyd gan y  Cabinet heb ei newid. 

 

Cyfeiriodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol at y blaenoriaethau craidd, yr uchelgeisiau a’r amcanion oedd yn Rhan 1 o’r Cynllun, ac os cytunwyd yn y Cyngor, byddai’n arwain at Ran 2 a fyddai’n datblygu’r cynnydd, a pherfformiad y Cynllun. Dywedodd y byddai Rhan 2 yn cael ei chyflwyno i’r Cabinet a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym mis Gorffennaf. Unwaith y byddai Rhan 1 a Rhan 2 wedi’u cymeradwyo byddent yn cael eu cynnwys mewn dogfen graffigol ddigidol a’i chyhoeddi ar wefan y Cyngor ddiwedd Gorffennaf.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cynllun wedi’i strwythuro’n fras ar gyfer 5 mlynedd ond byddai’n newid fesul blwyddyn, fodd bynnag, pe byddai angen newid sylfaenol neu pe byddai cais yn dod gan LlC gellid ychwanegu ati. Awgrymodd pan fyddai perfformiad Chwarter 2 yn cael ei ystyried tua mis Tachwedd eleni eu bod yn cynnal trafodaeth gynnar am y blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf a gallai unrhyw addasiadau o bwys gael eu hawgrymu ochr yn ochr â’r broses o osod y gyllideb. Awgrymodd hefyd y gallai fod o gymorth i’r Pwyllgorau Trosolwg  a Chraffu gynnwys rhannau o’r Cynllun yn eu blaen raglenni gwaith.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts yr argymhelliad yn yr adroddiad i gymeradwyo Rhan 1 o Gynllun y Cyngor 2019/20.  Diolchodd i bawb a fu yn y gweithdai ac a gynigiodd fewnbwn a diolchodd am waith y Gweithgor Trawsbleidiol. Gofynnodd i Aelodau gefnogi Rhan 1 y Cynllun. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Billy Mullin.

 

Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom na allai gefnogi’r cais i gymeradwyo’r Cynllun a chyfeiriodd at yr ymrwymiad i ddatblygu’r isadeiledd traffig a’r cynllun cludiant strategol. Amlinellodd nifer o bryderon a chyfeiriodd at yr ymrwymiad i’r ‘llwybr coch’ a soniodd am yr angen am ddull newydd ar gyfer y coridor priffordd sy’n arwain o gefn Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Gofynnodd am wneud gwaith pellach i ddarparu isadeiledd cludiant ffordd oedd yn hwyluso mynediad o ben gorllewinol y Sir a Sir Ddinbych ar draws yr afon i gefn Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Nododd y Prif Weithredwr y farn a fynegwyd gan y Cynghorydd Heesom ac eglurodd nad oedd y materion a godwyd ynghylch priffyrdd yng Nghynllun y Cyngor gan nad oedd yn un o swyddogaethau’r Cyngor. Dywedodd fod y Cyngor yn gweithio gyda LlC ar ei swyddogaethau a’i  ...  view the full Cofnodion text for item 21