Mater - cyfarfodydd

Housing Rent Income

Cyfarfod: 22/01/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 41)

41 Incwm Rhent Tai pdf icon PDF 131 KB

Pwrpas:        I ddarparu diweddariad gweithredol ar gasglu rhent a lefelau ôl-ddyledion presennol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y diweddariad chwarterol ar gasglu rhent gan gy nwys y sefyllfa ddiweddaraf ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, yn dilyn yr adroddiad diweddariad diwethaf yn Chwefror 2019. 

 

Dywedodd y Rheolwr Refeniw bod yr ôl-ddyledion rhent yn 2019/20, hyd at wythnos 34 (25/11/2019) yn £2.23 miliwn, o’i gymharu â £2.38miliwn ar yr un pwynt yn 2018/19, oedd yn dangos sefyllfa casglu gwell gyda rhent cyffredinol yn gostwng £150,000.  Dywedodd y gwnaed cynnydd graddol i leihau’r ôl-ddyledion rhent, a chyflawnwyd hyn o ganlyniad uniongyrchol i’r canlynol:-

 

  • Adnoddau cynyddol
  • Cyflwyno canolbwynt ymyrraeth gynnar i gynorthwyo’r tenantiaid hynny mewn mwy o risg o golli eu cartrefi. 
  • Mabwysiadu dull mwy cadarn am bwysigrwydd talu rhent ar amser.
  • Buddsoddi mewn Meddalwedd ‘Rent Sense’ Mobysoft

 

Eglurodd y Rheolwr Refeniw fod gweithredu’r meddalwedd ‘Rent Sense’ Mobysoft yn helpu’r gwasanaeth i nodi achosion ôl-ddyledion rhent yn gyflym ac roedd ymyrraeth gynt yn cael ei rhoi ar waith fesul achos i atal ôl-ddyledion rhag datblygu ond sicrhau  bod tenantiaid yn cwrdd â’u rhwymedigaethau talu.   

 

Roedd y Cadeirydd yn croesawu canlyniad a chadarnrwydd y gwasanaeth a meddalwedd newydd.   

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom a fyddai yna effaith ar y Cyngor os byddai Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn troi tenant allan.  Dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod Cymdeithas Dai Clwyd Alyn wedi mabwysiadu polisi dim troi allan.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Bernie Attridge i swyddogion am yr adroddiad a chroesawodd y gostyngiad mewn ôl-ddyledion rhent.  Mynegodd bryderon am denantiaid yn cael eu hannog i drefnu gorchmynion rhyddhau o ddyled drwy hysbysebion a gofynnodd a fyddai hyn yn effeithio ar allu’r Cyngor i hawlio rhent oedd yn ddyledus yn ôl.  Eglurodd y Rheolwr Refeniw bod darpariaeth ar gyfer gorchmynion rhyddhau o ddyled ond roedd hyn yn cael ei fonitro i sicrhau nad oedd tenantiaid yn ymgeisio am ail orchymyn rhyddhau o ddyled. 

 

            Roedd y Cynghorydd Heesom yn canmol swyddogion a’r tîm am y ffordd yr oeddent yn cynorthwyo tenant mewn dyled i hwyluso eu gallu i gadw eu cartref a lleihau eu dyled. 

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Wisinger, eglurodd y Rheolwr Refeniw bod gan oddeutu 140 o denantiaid rhwng £2500 a £5000 o ddyled mewn rhent. 

 

            Roedd y Cynghorydd Attridge yn cynnig yr argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad, gydag argymhelliad ychwanegol i’r Pwyllgor ddiolch i swyddogion o fewn y Tîm Refeniw am y gwaith a wneir i barhau i leihau’r ôl-ddyledion rhent.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Heesom.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod sefyllfa ariannol ddiweddaraf ôl-ddyledion rhent yn 2019/20, fel y darparwyd yn ystod y cyfarfod yn cael ei nodi; a

 

(b)       Y Pwyllgor i ddiolch i swyddogion o fewn y Tîm Refeniw am y gwaith a wneir i barhau i leihau’r ôl-ddyledion rhent.