Mater - cyfarfodydd
PART 2 Multi Asset Credit Transition
Cyfarfod: 12/06/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 18)
Pontio Credyd Aml-ased
Pwrpas: Darparu cynnydd i Aelodau’r Pwyllgor ar y mandad Incwm Sefydlog o fewn Partneriaeth Pensiwn Cymru a bod y Pwyllgor yn cadarnhau’r penderfyniad i fuddsoddi yng Nghronfa Credyd Amlased WPP fydd yn cael ei ariannu o’r mandad presennol gyda Phartneriaid Buddsoddi Stone Harbor.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (18/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (18/3)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (18/4)
Cofnodion:
Esboniodd Mr Campbell fod gan y Gronfa ddyraniad strategol o 12% i Gredyd Aml-Ased sydd wedi’i reoli gan Bartneriaid Buddsoddi Stone Harbor a sydd yn cynrychioli gwerth cyfredol o c£200m. Mae cronfa Credyd Aml-Ased bellach yn cael ei chynnig gan Gronfa Cymru fel rhan o’r Is-Gronfeydd Incwm Sefydlog. Ar ôl diwydrwydd dyladwy priodol, cytunwyd y byddai daliad y Gronfa yn cael ei drosglwyddo i’r is-gronfa a gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo hyn a dirprwyo'r gwaith o amseru hynny i swyddogion.
Yna fe aeth Mr Campbell drwy sleidiau at ddibenion hyfforddiant a gwybodaeth ar gyfer y Pwyllgor cyn gwneud y penderfyniad hwnnw.
PENDERFYNWYD:
(a) Cadarnhaodd y Pwyllgor y penderfyniad i fuddsoddi yng Nghronfa Credyd Aml-Ased Partneriaeth Pensiynau Cymru, a ariennir drwy’r mandad cyfredol gyda Phartneriaid Buddsoddi Stone Harbor.
(b) Yn unol â gofynion yr IAA yngl?n â materion wedi’u neilltuo, fel y bônt yn berthnasol i amseriad y newid, cytunodd y Pwyllgor y dylid trosglwyddo’r asedau yn y misoedd i ddod ar sail cyngor rheolwr newid arbenigol.
(c) Dirprwyodd y Pwyllgor y dasg o bennu union amser y trosglwyddiad i’r swyddogion hynny o Gronfa Bensiynau Clwyd oedd yn aelodau o'r Gweithgor Swyddogion, ar ôl ystyried cyngor y rheolwr newid arbenigol.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am ddod i’r cyfarfod a darparu’r wybodaethdiweddaraf, a nododd y cynhelid cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 4 Medi. Daeth y cyfarfod i ben am 1pm.
……………………………………
Cadeirydd