Mater - cyfarfodydd

Workforce Information Report - Quarter 4 2018/19

Cyfarfod: 13/06/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 15)

15 Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu - Chwarter 4 2018/19 pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i’r Aelodau yngl?n á pherfformiad sefydliadol a thueddiadau 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygiad Sefydliadol yr adroddiad gwybodaeth am y gweithlu - Chwarter 4 o 2018/19 oedd yn canolbwyntio ar berfformiad a thueddiadau.

 

Roedd y cynnydd yn y ffigurau Cyfwerth ag Amser Llawn (FTE) yn 2018-19 wedi cynnwys nifer o weithwyr asiantaeth a benodwyd i swyddi parhaol  a gafodd effaith gadarnhaol ar wariant ar weithwyr asiantaeth. Roedd y gostyngiad mewn ffigurau presenoldeb yn siomedig, fodd bynnag roedd hyn yn adlewyrchu sefyllfa debyg ar draws nifer o gynghorau eraill yng Nghymru. Roedd y prif reswm am absenoldeb salwch (Straen, Iselder, Pryder) hefyd yn adlewyrchu’r duedd genedlaethol ac yn Sir y Fflint, roedd dadansoddiad gan Iechyd Galwedigaethol yn dangos bod mwyafrif yr achosion hynny wedi’u sbarduno gan broblemau personol oedd yn effeithio ar waith. Roedd y tîm Iechyd Galwedigaethol yn parhau i weithio gyda gwasanaethau ac roedd wedi helpu i leihau nifer yr achosion o straen yn ymwneud a gwaith yn yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd dadansoddiad manwl ar ganfyddiadau’r tîm yn cael ei adrodd mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

O ran cwblhau arfarniadau oedd yn faes blaenoriaeth, rhannodd y Prif Weithredwr ei siom gyda’r ffigur terfynol o 75% oedd yn ostyngiad ers y chwarter blaenorol (91%). Ni chredid bod hwn yn ffigur cywir gan nad oedd arfarniadau a gwblhawyd wedi’u cofnodi’n ddigonol ac oherwydd diffyg trefnu arfarniadau dilynol o fewn y cyfnod. Roedd cynllun gweithredu manwl yn cynnwys adolygiad o’r model arfarnu a fyddai’n helpu i sicrhau gwell canlyniadau. Byddai cynnydd Chwarter 2 yn cael ei adrodd i’r Pwyllgor ym Medi. Hefyd, byddai eitem arbennig ar arfarniadau pan allai’r Prif Swyddogion perthnasol fod yn bresennol i egluro unrhyw feysydd lithriant.

 

Soniodd y Cynghorydd Jones am gyfraddau hunanladdiad cenedlaethol ar gyfer y gr?p oed 25-45, yn arbennig dynion oedd yn aml yn ei chael yn anodd siarad am faterion iechyd meddwl. Gofynnodd a oedd yn bosibl dadansoddi ffigurau ar gyfer y prif gategori absenoldeb (Straen , Iselder, Pryder) i roi awgrym o’r rhaniad rhwng gwrywod a benywod. Cytunodd y Prif Weithredwr a dywedodd y gellid dangos hefyd yr ystod oedran.

 

Wrth rannu rhwystredigaethau swyddogion am berfformiad cwblhau arfarniadau, dywedodd y Cynghorydd Jones fod hon yn broblem ers tro a galwodd i Brif Swyddogion fod yn bresennol yn y Pwyllgor cyn data Chwarter 2 i gynnig esboniad yngl?n â’u meysydd gwasanaeth. Dywedodd mai Prif Swyddogion oedd yn bennaf gyfrifol am sicrhau bod arfarniadau’n cael eu cwblhau ac y dylai hynny gael ei adlewyrchu fel rhan o’u harfarniad eu hunain.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod adolygiad cychwynnol wedi dangos cysondeb annigonol o ran gweithio o fewn systemau ac y byddai hyn yn cael sylw. Yn ddiweddar gwnaed cynnydd da ar arfarniadau oedd angen eu cynnwys yn y broses ar draws y sefydliad rhag bod llithriant pellach.  Fel swyddog arweiniol, byddai’n ceisio sicrwydd fod cynnydd ar y cynllun gweithredu ac os nad oedd yn fodlon â’r esboniadau a roddid, byddai angen i’r Prif Swyddogion perthnasol fynd gerbron y Pwyllgor. Tra bod Prif Swyddogion yn cael eu dwyn i gyfrif am  ...  view the full Cofnodion text for item 15