Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2018/19 (Outturn) and Capital Programme Monitoring 2018/19 (Outturn)

Cyfarfod: 11/07/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 26)

26 Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (alldro) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (alldro) pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn darparu sefyllfa alldro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, a sefyllfa alldro’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid, Strategaeth Ariannol ac Yswiriant adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2018/19 (Ffigurau terfynol) i Aelodau a chyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Adroddiad Monitro’r Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Ffigurau terfynol). Byddai’r ddau adroddiad yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet ar 16 Gorffennaf, ac roeddent wedi’u hatodi i’r adroddiad. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at Adroddiad Monitro’r Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Ffigurau terfynol) a chyfeiriodd at gostau parcio ceir. Dywedodd fod angen nodi a gwahaniaethu rhwng cyllideb a gwasanaeth craidd. Cyfeiriodd at feysydd o orwariant a dywedodd y dylai’r Cyngor edrych ymlaen ac nid yn ôl i leihau unrhyw orwariant posibl.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2018/19 (Ffigurau terfynol) a chadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol y mae’n dymuno eu codi yn y Cabinet; a

                  

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiad Monitro’r Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Ffigurau terfynol) a chadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol y mae’n dymuno eu codi yn y Cabinet.