Mater - cyfarfodydd
Communal Heating Charges 2019/20
Cyfarfod: 18/06/2019 - Cabinet (eitem 19)
19 Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2019/20 PDF 219 KB
Pwrpas: Amlinellu a cheisio cytundeb ar gyfer y ffioedd gwresogi arfaethedig mewn eiddo’r cyngor gyda systemau gwresogi ardaloedd cymunedol ar gyfer 2019/20.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad oedd yn cynnig ffioedd newydd diwygiedig ar gyfer gwresogi ardaloedd cymunedol er mwyn osgoi adeiladu diffyg ar y cyfrif gwresogi wrth gefn. Roedd hyn oherwydd bod prisiau wedi codi yn uwch na'r disgwyl pan gytunodd y Cabinet ar y ffioedd ym mis Mehefin 2018.
Mae’r tabl yn yr adroddiad yn nodi’r ffioedd gwresogi a argymhellwyd yn seiliedig ar wir ddefnydd yn 2017/18 a 2018/19, y rhagdybiad y byddai costau yn codi o 18% yn 2019/20, ac y byddai defnydd yn aros ar lefelau tebyg am y 12 mis nesaf. Byddai’r ffioedd newydd yn dod i rym ym mis Awst 2019 fel bod y cynnydd yng nghostau’r tenantiaid yn digwydd dros gyfnod hwy o amser.
PENDERFYNWYD:
Bod y newidiadau i’r ffioedd gwresogi cyfredol yn adeiladau'r Cyngor sydd â systemau gwresogi cymunedol fel yr amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo – bydd yr holl newidiadau yn dod i rym o 1 Awst 2019.