Mater - cyfarfodydd

Renewal of North Wales Construction Framework

Cyfarfod: 14/05/2019 - Cabinet (eitem 8)

8 Adroddiad Cynghorol – Adnewyddu Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Cabinet ac yn cadarnhau trefniadau newydd ar gyfer y Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru newydd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad Adnewyddu Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru oedd yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf ac yn cadarnhau’r trefniadau newydd ar gyfer y Fframwaith.

 

Sefydlwyd Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru yn 2014 ac roedd yn weithredol tan 2018. Fe’i sefydlwyd ar y dechrau i godi adeiladau ysgol newydd, neu ailfodelu ac adnewyddu adeiladau ysgol presennol o dan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Fodd bynnag, datblygodd y Fframwaith a gellid hefyd ei ddefnyddio gan gyrff sector cyhoeddus eraill yn y rhanbarth i ddarparu eu prosiectau ar wahân i ysgolion.

 

Roedd y Fframwaith yn darparu dull syml, cost effeithlon a chydweithredol i sicrhau contractwyr ar gyfer prosiectau adeiladu mewn ysgolion ac adeiladau cyhoeddus eraill drwy Ogledd Cymru. Roedd ugain o brosiectau rhanbarthol wedi sicrhau nifer o fuddion cymunedol a amlinellwyd yn yr adroddiad – byddai’r nifer hwnnw’n debygol o gynyddu wrth i brosiectau terfynol Band A gael eu cwblhau.

 

Amlinellwyd manylion y Fframwaith newydd a’r broses yn yr adroddiad. Byddai’r Fframwaith yn cael effaith gadarnhaol yn rhanbarth Gogledd Cymru gan greu cyfleusterau newydd ar gyfer defnydd cyhoeddus yn cynnwys ysgolion newydd, creu swyddi yn y sector adeiladu, gwella cyrhaeddiad addysgol, gan ddarparu’r cyfleoedd i gynnwys ac ymgysylltu â’r gymuned a helpu i hybu diwylliant bywiog a’r iaith Gymraeg. Y Fframwaith fyddai’r cerbyd caffael ar gyfer rhaglen fuddsoddi band B Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

PENDERFYNWYD:

           

Nodi’r adroddiad.