Mater - cyfarfodydd
Homelessness Update on Local Action Plan
Cyfarfod: 26/06/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 8)
8 Diweddariad ar y Cynllun Gweithredu Digartrefedd Lleol PDF 234 KB
Pwrpas: Rhoi diweddariad ar y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran y Cynllun Gweithredu Digartrefedd Lleol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd gyda chynllun gweithredu'r Cyngor i gefnogi'r Strategaeth Digartrefedd ranbarthol.
Rhoddodd drosolwg o'r gweithgareddau o dan y tair thema a oedd yn adlewyrchu blaenoriaethau lleol. Ar y thema ‘Pobl’, gwnaed cynnydd da o ran ehangu’r ystod o gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc. Tynnwyd sylw at yr ap ‘Streetlink’ a alluogodd aelodau’r cyhoedd i riportio pobl sy’n cysgu allan i ysgogi cefnogaeth gan y gweithiwr allgymorth lleol. Ar y thema ‘Cartrefi’, roedd gwaith y Tîm Datrysiadau Tai yn cynnwys cynyddu mynediad i lety rhent preifat. O ran ‘Gwasanaethau’, byddai llwyddiant y peilot Atal Dadfeddiannu yn cael ei gyflwyno i dimau eraill.
Siaradodd y Cynghorydd Brown am yr anhawster i gynyddu mynediad i lety rhent sector preifat. Yn ystod y drafodaeth, cyfeiriodd at achos cymhleth yn ymwneud ag unigolyn a oedd yn cysgu allan. Dywedodd y Prif Swyddog fod y gwasanaeth eisoes wedi ymgysylltu'n helaeth â'r unigolyn ar sawl achlysur i gynnig cefnogaeth. O ran capasiti yn y Lloches Nos, esboniodd yr Arweinydd Tîm y byddai'r ddarpariaeth yn cynyddu yn dilyn peilot llwyddiannus. O ran llety rhent preifat, siaradodd am gynlluniau i ymgysylltu â landlordiaid preifat mewn ymgais i oresgyn rhwystrau.
Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes fod tywydd gwael diweddar wedi effeithio ar argaeledd yn y Lloches Nos a chroesawodd gynlluniau i ehangu capasiti.
O ran llety rhent preifat, siaradodd y Cynghorydd Shotton am argaeledd mewn tafarn wag. Cafodd ei sylwadau am gynllun llety modiwlaidd yn Ne Cymru eu cydnabod gan y Prif Swyddog a ddywedodd y byddai adroddiad ar oblygiadau cynllun tebyg yn Sir y Fflint yn cael ei ystyried gan y Cabinet.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Reece a'i eilio gan y Cynghorydd Ron Davies.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r diweddariadau a ddarperir yn erbyn y Cynllun Gweithredu Lleol ar gyfer Digartrefedd.