Mater - cyfarfodydd
Council Plan
Cyfarfod: 09/05/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 7)
7 Cynllun y Cyngor 2019/20 PDF 103 KB
Pwrpas: Gwahoddir y pwyllgor i ystyried a rhoi sylw ar yr adroddiad ynghlwm a gafodd ei gymeradwyo gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 16 Ebrill ac wedi’i ddatblygu ers hynny.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar Gynllun y Cyngor 2019/20 a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 16 Ebrill a datblygwyd ers hynny. Gofynnwyd i’r Pwyllgor adolygu’r blaenoriaethau a’r is-flaenoriaethau a darparu adborth i’r Cabinet.
Darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndir ac esboniodd fod amlinelliad o Gynllun y Cyngor 2019/20 yn cynnwys y saith thema, eu blaenoriaethau ac is-flaenoriaethau wedi’u crynhoi yn yr adroddiad. Roedd gwaith yn datblygu’n dda ar fanylion pob is-flaenoriaeth ac roedd y camau gweithredu yn ystod y flwyddyn wedi’u cynllunio. Rhoddwyd cymeradwyaeth y Cabinet o'r blaenoriaethau a’r is-flaenoriaethau o Ran 1 o’r Cynllun ym mis Ebrill. Byddai’r Cynllun cyfan – Rhan 1 a 2 (Rhan 2 yn cynnwys y mesurau a'r cerrig milltir manwl) yn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir ym mis Mehefin ar argymhelliad y Cabinet.
Roedd Cynllun y Cyngor yn cadw’r uwch-strwythur o chwech thema a blaenoriaethau cefnogol gyda thema ychwanegol i ganolbwyntio ar y gwasanaethau gweithredol proffil uchel. Dywedodd y byddai cynllun drafft gyda holiadur byr i ddarparu adborth yn cael ei anfon at y Pwyllgor yr wythnos nesaf ac awgrymodd y dylid cynnal gweithdy i ystyried Cynllun y Cyngor yn fanwl ar ddiwedd mis Mai. Cytunodd y Pwyllgor i hyn.
Siaradodd y Cynghorydd Billy Mullin am fewnbwn gwerthfawr y Pwyllgor wrth graffu ar Gynllun y Cyngor a dywedodd bod sylwadau a safbwyntiau’r Aelodau wedi’u hystyried. Siaradodd hefyd am bwysigrwydd presenoldeb Aelodau yn y gweithdai a’r cyfle yr oedd y gweithdai yn ei roi i drafod unrhyw bryder.
Mynegodd y Cynghorydd Richard Jones y safbwynt nad oedd pob Aelod wedi llwyr werthfawrogi’r gwahoddiad i’r gweithdy a phwysigrwydd Cynllun y Cyngor. Soniodd am yr angen i reoli’r Cynllun ochr yn ochr â’r broses gyllideb. Cynigodd y Cynghorydd Jones bod yr eitem yn cael ei gohirio nes bod y gweithdy ar Gynllun y Cyngor wedi’i gynnal a bod e-bost yn cael ei anfon ar ran y Pwyllgor yn annog yr holl Aelodau i fynychu’r gweithdy i’w gynnal ddiwedd mis Mai. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Paul Cunningham. Cytunodd y Cadeirydd i anfon e-bost ar ran y Pwyllgor i bwysleisio pwysigrwydd mynychu’r gweithdy ar Gynllun y Cyngor. Awgrymodd y Cynghorydd Glyn Banks y dylid gofyn i'r Aelodau yn yr e-bost am eu hadborth ar Gynllun Drafft y Cyngor.
Tynnodd y Cynghorydd Richard Jones sylw at frawddeg olaf, yr ail baragraff ar dudalen 57 yr adroddiad ac roedd yn awgrymu bod rhai gwasanaethau yn cael eu hystyried â phroffil is ac nad oeddent yn cael eu diogelu.
Mynegodd y Cynghorydd Patrick Heesom sawl pryder mewn perthynas â Chynllun y Cyngor a dywedodd bod angen gwneud mwy o waith ar osod y gyllideb a swyddogaethau allweddol fel yr amlinellwyd yn y Cynllun. Soniodd hefyd am Fargen Dwf Gogledd Cymru a'r Strategaeth Trafnidiaeth Integredig a dywedodd bod angen mwy o strwythur yn y Cynllun i fynd i’r afael â’r materion allweddol o ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’n croesawu trafodaeth bellach ar faterion penodol neu heriau yr oedd Aelodau yn dymuno eu codi a ... view the full Cofnodion text for item 7