Mater - cyfarfodydd
School Organisation - Lixwm Community Primary School Consultation on the proposed change of designation from a Community to a Voluntary Aided School
Cyfarfod: 14/05/2019 - Cabinet (eitem 5)
Pwrpas: I wneud cais bod y Cabinet yn cytuno i ymgynghoriad o dan Ddeddf Safonau a Sefydliadau Ysgolion (Cymru) 2018 ar gynnig i newid dynodiad Ysgol Gynradd Licswm i Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Letter from Governors of Ysgol yr Esgob VA School, eitem 5 PDF 109 KB
- Appendix 2 - Letter from the Governors of Lixwm CP School, eitem 5 PDF 150 KB
- Appendix 3 - Anticipated consultation timeline, eitem 5 PDF 49 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad oedd yn cynnwys gwybodaeth am y newid arfaethedig i ddynodiad o ysgol gymunedol i ysgol wirfoddol a gynorthwyir.
Roedd Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm wedi bod yn ystyried atebion cynaliadwy i gynnal eu hysgol yn ei chymunedol leol gydag ysgolion eraill, yr Awdurdod Esgobaethol a’r Cyngor. Roedd hyn yn dilyn penderfyniad gan y Cabinet i beidio â chyfuno Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm ag Ysgol Gynradd Gymunedol Brynford.
Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod y gwaith hwn wedi arwain at gytundeb rhwng Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm a Llywodraethwyr Ysgol Yr Esgob wirfoddol a gynorthwyir i geisio ffurfio ffederasiwn rhwng y ddwy ysgol. Fodd bynnag, nid yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 yn caniatáu i ysgolion ffydd na rhai sy’n seiliedig ar ymddiriedolaeth i ffedereiddio ag ysgolion cymunedol. Felly roedd angen i’r Cyngor ymgynghori ar newid arfaethedig i ddynodiad o Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm i Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2018.
Diolchodd y Prif Swyddog i’r Awdurdod Esgobaethol am eu rhan weithgar yn y trafodaethau gyda’r Cyngor a’r Ysgolion ac am gefnogi’r strategaeth arfaethedig.
Mae’r amserlen a ragwelir ar gyfer y broses ymgynghori arfaethedig wedi’i hatodi i’r adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn fodlon fod Corff Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm wedi ystyried modelau addas a chanlyniadau i ddarparu addysg yn ardal Licswm; a
(b) Bod y Cabinet yn cymeradwyo ymgynghoriad o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2018 ar gynnig i newid i ddynodiad o Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm i Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir i hwyluso ffederaleiddio yn y dyfodol.