Mater - cyfarfodydd
Outcome Letters of Complaints Considered by the Public Services Ombudsman for Wales
Cyfarfod: 29/04/2019 - Pwyllgor Safonau (eitem 74)
Llythyrau canlyniad cwynion a ystyriwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Pwrpas: Ystyried y llythyrau a’r argymhellion ynddynt.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (74/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (74/3)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (74/4)
- Restricted enclosure 5 , View reasons restricted (74/5)
- Restricted enclosure 6 , View reasons restricted (74/6)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad oedd yn cynnwys manylion llythyrau canlyniad cwynion a ystyriwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd y byddai darparwyr hyfforddiant yn cael ei gomisiynu i gynnig hyfforddiant i Gyngor Tref, gyda chymorth gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Hefyd mae'n bosibl y bydd angen gwasanaeth cyfryngu o ystyried bod yr Aelodau’n gyfarwydd â Chod Ymddygiad Aelodau. Gofynnir i’r Cyngor Tref dan sylw rannu costau’r hyfforddiant a roddir.
Yn dilyn y drafodaeth o dan y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol, cytunwyd y byddai cwestiwn yn cael ei ddrafftio i’w ofyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn y Pwyllgor Safonau ynghylch cwynion.
PENDERFYNWYD:
(a) Comisiynu hyfforddiant ar gyfer Cyngor Tref, gyda chymorth gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
(b) Darparu gwasanaeth cyfryngu os bydd angen; a
(c) Gofyn i’r Cyngor Tref rannu costau unrhyw hyfforddiant a roddir.