Mater - cyfarfodydd

Discretionary Transport Policy Review – Outcome of consultation

Cyfarfod: 18/06/2019 - Cabinet (eitem 14)

14 Adolygiad Polisi Cludiant Dewisol – Canlyniad yr Ymgynghoriad pdf icon PDF 225 KB

Pwrpas:        Cynnig adborth ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar yr adolygiad o’r polisi cludiant ysgol a choleg dewisol ac ystyried y dewisiadau sydd ar gael.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad oedd yn crynhoi canlyniad yr ymgynghoriad ar feysydd hawl buddion a darpariaeth ôl 16 polisi cludiant coleg ac ysgol dewisol, a gynhaliwyd fis Rhagfyr 2018.  

 

Amlinellwyd manylion llawn yn yr adroddiad; roedd yr adroddiad hefyd wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid ac roedd yr adborth o’r cyfarfod hwnnw hefyd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad.  Darllenodd y Cynghorydd Roberts y datganiad canlynol:

 

             “Aelodau, rwy’n credu bod y penderfyniad sy’n ein hwynebu yn hynod o heriol. Fel Cyngor, rydyn ni yn falch iawn ein bod wedi sicrhau bod addysg ôl-16 ar gael i bawb ac o gael y niferoedd isaf o bobl sydd ‘Ddim mewn Addysg, Gwaith neu Hyfforddiant’ yng Nghymru. Er hynny, rydyn ni’n gwybod, fel awdurdod lleol ac yn dilyn 10 mlynedd o doriadau, fod ein gwariant net ni ar gludiant yn llawer uwch nag awdurdodau lleol eraill, yn cynnwys cludiant i ysgolion a cholegau.  Mae’n rhaid i ni gydnabod mai canlyniadau’r ymgynghoriad oedd galwad am beidio â newid y polisi sydd gennym ar hyn o bryd gan fod pobl yn amlwg yn amharod i dalu mwy am wasanaethau lleol os oes posib’ osgoi hynny.

 

            Yn anffodus, nid yw’r ffasiwn beth yn â chludiant am ddim i ysgol neu goleg yn bod – mae am ddim i’r defnyddiwr yn golygu fod yn rhaid i’r trethdalwr cyffredin dalu amdano.  Rydyn ni’n deall bod cludiant ysgol y mae angen i ni dalu amdano a’r gwahanol eithriadau o ran polisi cludiant yn ymarferol sydd wedi dod i’r amlwg dros y blynyddoedd. Yn anffodus, mae cludiant ôl-16 ymysg y gwasanaethau am ddim hynny, sydd wedi eu gwaredu o sawl awdurdod lleol arall, nad ydynt yn gynaliadwy bellach. Ar hyn o bryd mae’n costio oddeutu £750,000 fesul blwyddyn academaidd i’w gynnal.

 

            Rydyn ni’n ddiolchgar i’r Penaethiaid a chynrychiolwyr y Colegau a siaradodd ar ran Ffederasiwn y Penaethiaid Uwchradd, a’r colegau am gydnabod yr heriau ariannol rydyn ni’n eu hwynebu fel Cyngor, ac am gefnogi cyflwyno tâl, er yn anfodlon, gyda rhai mesurau i leihau’r effaith. Rydyn ni hefyd yn diolchgar i aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid am y drafodaeth a gawsant a’r penderfyniadau a wnaethant a oedd, eto, yn gweld y byddai’n rhaid cyflwyno tâl gyda mesurau i leihau’r effaith.  Mae hyn yn golygu bod angen i ni wneud penderfyniad heddiw. Hoffwn gynnig y canlynol felly:

 

  • O fis Medi 2020 ymlaen, dylid gosod y tâl bob tymor am gludiant ôl-16 ar uchafswm o £150 y tymor;
  • Dylai’r holl ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim dderbyn cludiant am ddim i’r ysgol neu’r coleg. Dylid talu am y mesur hwn o gronfeydd y Cyngor – nid o’r tâl am gludiant – fel budd dewisol;
  • Yn ystod y flwyddyn rhwng r?an a chyflwyno’r tâl, dylai’r Cyngor archwilio’r posibilrwydd o weithredu cronfa galedi i gefnogi teuluoedd lle mae’r tâl yn rhwystro myfyriwr rhag derbyn addysg oherwydd amgylchiadau, gan nodi hawl parhad i gludiant am ddim o dan y maen prawf  ...  view the full Cofnodion text for item 14