Mater - cyfarfodydd
Discretionary Transport Policy Review - Outcome of Consultation
Cyfarfod: 20/05/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 5)
5 Adolygiad Polisi Cludiant Dewisol – Canlyniad yr Ymgynghoriad PDF 95 KB
Pwrpas: Cynnig adborth ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar yr adolygiad o’r polisi cludiant ysgol a choleg dewisol ac ystyried y dewisiadau sydd ar gael.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Discretionary Transport Policy Review - Outcome of Consultation, eitem 5 PDF 72 KB
- Enc. 2 for Discretionary Transport Policy Review - Outcome of Consultation, eitem 5 PDF 86 KB
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd MrsJane Cooper, Mr Steve Jackson a Mr Alex Thomas i’r cyfarfod.
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad yn rhoi adborth ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar yr adolygiad o’r polisi cludiant dewisol i’r ysgol a’r coleg ac yn ystyried yr opsiynau sydd ar gael. Gwahoddwyd y Rheolwr Ysgolion – Cynllunio a Darpariaeth i gyflwyno’r adroddiad.
. Dywedodd y Rheolwr Ysgolion bod y Cabinet wedi cytuno ar amrywiaeth o opsiynau i ymgynghori’n ffurfiol yn eu cylch mewn perthynas â'r mater o gludiant dewisol i'r ysgol a’r coleg i ddisgyblion ôl-16. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 18 Chwefror a 5 Ebrill 2019. Mae’r adroddiad yn crynhoi canlyniadau’r ymgynghoriad. Siaradodd y Rheolwr Ysgolion am yr ystyriaethau allweddol fel sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, ac eglurodd bod yr opsiynau a gafodd eu cynnwys yn yr ymgynghoriad, yn unol â chytundeb y Cabinet ar 18 Rhagfyr 2018, i'w gweld yn llawn yn atodiad 2 i'r adroddiad gyda chrynodeb o'r ymatebion a gafwyd.
I gloi, dywedodd y Rheolwr Ysgolion pe bai’r Pwyllgor yn cytuno ar unrhyw opsiynau newydd yn y cyfarfod, yna byddai angen cyfnod newydd o ymgynghori er mwyn ystyried y cynigion a wnaed.
Croesawodd y Cadeirydd Mrs Cooper, MrJackson a Mr. Thomas i roi gwybod i'r Pwyllgor beth yw eu barn am ganlyniadau'r ymgynghoriad fel sydd i'w gweld yn yr adroddiad.
Diolchodd MrsCooper, ar ran y Gymdeithas Penaethiaid Ysgolion Uwchradd, i’r Pwyllgor am y cyfle i gyflwyno safbwyntiau Penaethiaid Uwchradd mewn ymateb i’r adolygiad o’r polisi cludiant i’r ysgol/coleg dewisol a'r opsiynau sydd ar gael. Dywedodd bod y Gymdeithas Penaethiaid Ysgolion Uwchradd yn deall y pwysau ariannol y mae costau perthnasol i gludiant ysgolion yn eu hachosi a’r angen i gau 'bwlch' ariannu'r Cyngor, ond maen bwysig annog pob dysgwr dros 16 i barhau â'u haddysg a'u cefnogi i wneud hynny drwy eu galluogi i fynd i leoliad o'u dewis nhw e.e.addysg ôl-16 mewn ysgol neu goleg. Aeth yn ei blaen i ddweud er ei bod yn bwysig bod dysgwyr yn cael cludiant am ddim i’w lleoliad ôl-16, mae’n bwysicach fyth bod cludiant ar gael ar draws Sir y Fflint, hyd yn oed ar gost bychan i rieni, er mwyn galluogi myfyrwyr i barhau mewn addysg ôl-16 a gwneud eu dewis eu hunain o ran lle i fynd, Roedd y Gymdeithas Penaethiaid Ysgolion Uwchradd yn cefnogi'r opsiwn o godi tâl ar rieni ond bod hwnnw'n cael ei gadw ar lefel isel er mwyn gallu parhau i ddarparu cludiant ar gyfer myfyrwyr.
Cyfeiriodd MrsCooper at bryderon y Gymdeithas Penaethiaid Ysgolion Uwchradd y byddai sawl canlyniad pe rhoddid y gorau i'r cludiant gan gynnwys mwy o dagfeydd traffig o amgylch ysgolion oherwydd y cynnydd mewn cerbydau preifat yn cludo plant. Dywedodd ei bod yn bwysig annog myfyrwyr i barhau i ddefnyddio cludiant cyhoeddus i deithio i ac o’r ysgol. I gloi dywedodd MrsCooper er mai dymuniad y Gymdeithas Penaethiaid Ysgolion Uwchradd fyddai cadw at y drefn sydd ohoni ond eu bod yn cydnabod ... view the full Cofnodion text for item 5