Mater - cyfarfodydd
North East Wales (NEW) Homes Business Plan 2019/2048
Cyfarfod: 18/06/2019 - Cabinet (eitem 25)
Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2019/2048
Pwrpas: Cymeradwyo Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2019/2048.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2
- Restricted enclosure 3
- Restricted enclosure 4
- Restricted enclosure 5
Cofnodion:
Ar ôl datgan cysylltiad personol a chysylltiad sy'n rhagfarnu yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd Banks yr ystafell cyn y drafodaeth.
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad, gan egluro bod y Cynllun Busnes yn nodi elfennau allweddol Strategaeth Ddatblygu arfaethedig y cwmni i gynyddu’r nifer o Eiddo Rhent Fforddiadwy i'w cyflawni dros y tair blynedd nesaf i 207 o unedau.
Roedd rhwymedigaeth ar Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru i geisio cymeradwyaeth y Cabinet o ran unrhyw Gynllun Busnes oedd yn darparu amcanion strategol y cwmni. Ar gyfer pob blwyddyn rhaid i’r cwmni gydymffurfio gyda, a gweithredu Cynllun Busnes gyda chymeradwyaeth o flaen llaw gan y Cabinet.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2019/2048; a
(b) Cymeradwyo bod y cynnydd mewn Benthyca Darbodus yn y dyfodol drwy’r Cyngor (hyd at uchafswm o £20 miliwn) ar gyfer benthyca ymlaen i Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru at bwrpas datblygu neu brynu tai fforddiadwy yn ddibynnol ar Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru yn bodloni paramedrau benthyca y cytunwyd arnynt.