Mater - cyfarfodydd
Improvements to the B5129 between the Denbighshire and Chester West and Cheshire County Council Borders in order to improve bus journey times
Cyfarfod: 16/04/2019 - Cabinet (eitem 342)
Pwrpas: I geisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer gwelliannau i amseroedd siwrneiau bws rhwng Sir Ddinbych a’r ffin gyda Chaer, gan gynnwys adeiladu lonydd penodol ar gyfer bysiau a beiciau ar hyd coridor Glannau Dyfrdwy ar y B5129 a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Improvements to the B5129 between the Denbighshire and Chester West and Cheshire County Council Borders in order to improve bus journey times, eitem 342 PDF 4 MB
- Appendix 1a - Improvements to the B5129 between the Denbighshire and Chester West and Cheshire County Council Borders in order to improve bus journey times, eitem 342 PDF 2 MB
- Appendix 1b - Improvements to the B5129 between the Denbighshire and Chester West and Cheshire County Council Borders in order to improve bus journey times, eitem 342 PDF 3 MB
- Appendix 2 - Improvements to the B5129 between the Denbighshire and Chester West and Cheshire County Council Borders in order to improve bus journey times, eitem 342 PDF 67 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn esbonio bod y Cyngor ar hyn o bryd yn cyflwyno elfennau amrywiol Strategaeth Trafnidiaeth Integredig Sir y Fflint, a oedd yn cefnogi Prosiect Metro Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru (LlC).
Roedd y prosiect yn cynnwys gwaith i wella amseroedd teithio bysiau ar hyd y B548/B5129, a oedd yn llwybr bysiau allweddol drwy'r sir, gan gysylltu Sir Ddinbych a Gorllewin Swydd Gaer a Chaer. Roedd nifer o welliannau wedi'u cynllunio yn rhan o'r prosiect, a oedd yn cynnwys mesurau i roi'r flaenoriaeth i fysiau wrth gyffyrdd allweddol a chanddynt oleuadau traffig.
Roedd proses wedi dod i ben yn ddiweddar i ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch y cynnig i adeiladu lonydd bws a beic amlddefnydd ar hyd darn o'r B5129 yng Nglannau Dyfrdwy, a oedd yn rhan o'r prosiect cyffredinol. Yn rhan o'r gwaith paratoi, roedd astudiaethau modelu traffig wedi cael eu cwblhau a oedd yn dangos gostyngiad sylweddol o hyd at 8 munud mewn amseroedd teithio bws i'r naill gyfeiriad a'r llall ar amseroedd brig, heb amharu rhyw lawer ar amseroedd teithio presennol i geir ar hyd y ffordd honno.
Byddai'r cynllun yn achosi mwy o dagfeydd yn yr ardal wrth ei gyflawni, ond bydd ai'r manteision hirdymor o gymorth i sicrhau dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yn Sir y Fflint ac yn lleihau'r ciwiau o amgylch Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.
Roedd y Cynghorydd Jones yn croesawu'r adroddiad a'r gwelliannau a oedd wedi'u cynllunio, y bu hir aros amdanynt. Dywedodd hefyd y dylid ymestyn y cynlluniau hyd at Airbus ym Mrychdyn. Cytunai'r Cynghorydd Butler a dywedodd ei fod yn hollbwysig er mwyn sicrhau cyfleoedd cyflogaeth a gwella llif y traffig.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo defnyddio cyllid Grant Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru i adeiladu'r lonydd bws a beic amlddefnydd arfaethedig ar y B5129 rhwng Lôn Shotton a Queensferry.