Mater - cyfarfodydd
Standards Committee Independent Members
Cyfarfod: 07/05/2019 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 10)
10 Aelodau Annibynnol o’r Bwyllgor Safonau PDF 74 KB
Pwrpas: Ystyried penodi Aelod Annibynnol i’r Bwyllgor Safonau am ail dymor.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar aelodaeth y Pwyllgor Safonau oherwydd bod tymor dau o’r aelodau annibynnol yn eu swydd wedi dod i ben yn ddiweddar. Roedd y ddau aelod yn gymwys i gael eu hail-benodi am ail dymor a chydnabuwyd eu cyfraniadau gwerthfawr i’r Pwyllgor. Tra bo Phillipa Earlam yn barod i wasanaethu eto, awgrymwyd y dylid anfon llythyr o ddiolch at Edward Hughes a oedd yn dymuno camu i lawr.
Amlinellodd y Prif Swyddog y rheolau ar benodi aelodau annibynnol a dywedodd y byddai proses recriwtio ar y cyd bosibl â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam o fudd.
Wrth groesawu cyfraniadau aelodau annibynnol ar y Pwyllgor Safonau, cynigiodd y Cynghorydd Paul Johnson yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Woolley.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cyngor yn ailbenodi Phillipa Ann Earlam i’r Pwyllgor Safonau am bedair blynedd ac yn hysbysebu’r swydd wag a oedd ar ôl ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam; a
(b) Bod Cadeirydd y Cyngor yn ysgrifennu at Edward Hughes i ddiolch iddo am ei waith caled ar y Pwyllgor yn ystod ei dymor.