Mater - cyfarfodydd
Medium Term Financial Strategy (MTFS) Forecast Update
Cyfarfod: 11/04/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 104)
104 Trategaeth Ariannol Tymor Canolig Diweddariad Rhagolygon PDF 74 KB
Pwrpas: Diweddaru Rhagolygon MTFS 2020/21 - 2022/23.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar ragolygon Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) ar gyfer 2020/21-2022/23 cyn cael ei ystyried gan y Cabinet. Roedd cyflwyniad ar y cyd gyda'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn cynnwys y canlynol:
· Rhagolwg ariannol ym mis Chwefror 2019.
· Adolygu’r pwysau
o Tâl/y gweithlu
o Gofynion Gofal Cymdeithasol
o Pwysau Addysg
o Pwysau ariannol corfforaethol
o Pwysau eraill – wedi’u diweddaru a rhai newydd
o Risgiau
· Camau Nesaf
· Amserlen
Ers yr adroddiad i'r Cyngor Sir ym mis Chwefror, mae effaith y pwysau presennol a adolygwyd, pwysau newydd a rhai sydd yn codi, a’r defnydd ychwanegol o gronfeydd wrth gefn yn y cam cyllideb, wedi cynyddu'r bwlch cyllideb a ragwelir ar gyfer 2020/21 i £13.320m. Roedd nifer o bwysau gan gynnwys tybiaethau ar dâl athrawon, a buddsoddiad yng Nghartref Preswyl Marleyfield a gofal ychwanegol Treffynnon a fyddai’n helpu i fodloni galwadau’r gwasanaeth a gosod yn erbyn pwysau ychwanegol. Roedd yr effaith cychwynnol amcangyfrif Deddf Tribiwnlys Addysg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2018 yn bwysau newydd gyda goblygiadau cost uchel i bob cyngor.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod y mwyafrif uchel o fwlch yn y gyllideb ond yn cael ei ariannu gan y diwygiad y polisi cenedlaethol. Roedd safbwyntiau’r Pwyllgor a’r Cabinet yn helpu’r gr?p trawbleidiol i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru. Roedd yr achos ar sail tystiolaeth am gyllid cenedlaetholi cynyddol yn cynnwys tri bloc:
1. Diogelu chwyddiant yn erbyn costau craidd e.e. tâl a phensiwn;
2. Pwysau difrifol ar y gwasanaeth e.e. Lleoliadau y tu allan o'r Sir a Phlant Dan Ofal; a
3. Cyllid llawn i ddeddfwriaeth newydd e.e. Anghenion Dysgu Ychwanegol
Amlygodd y Cynghorydd Roberts y pwysigrwydd bod y gr?p trawsbleidiol yn gweithio gyda’i gilydd i lunio ymateb i’r Gweinidog dros Lywodraeth Leol gan gynnwys yr angen i ddarparu cyllid ar gyfer dyfarniadau tâl cenedlaethol.
Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd McGuill, eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod dyraniadau heb eu defnyddio wedi cael eu rhoi yn ôl yn y cronfeydd wrth gefn i gynnal lefelau call, ond mae rhai risgiau wedi bod yn fwy na'r swm o gyllideb sydd ar gael. Atgoffodd yr Aelodau bod y cronfeydd wrth gefn ond yn cael eu defnyddio ar sail un tro.
Dywedodd y Cynghorydd Axworthy ei fod yn cefnogi adolygiad o’r polisi cyllid cenedlaethol. Awgrymodd bod Comisiwn 2016 ar gyllid llywodraeth leol yng Nghymru – yr oedd Sir y Fflint wedi bod yn brif cyfrannwr – yn cael ei adolygu eto a’i deilwra ar gyfer perthnasedd ar y cam hwn i gefnogi’r achos i Lywodraeth Cymru. Dywedodd y Prif Weithredwr bod diffyg cynnydd ar argymhellion yr adroddiad a chadarnhaodd bod y sylwadau ar y fformiwla cyllid o fewn y cylch gorchwyl ar gyfer y gweithgor trawsbleidiol. Cytunodd y bydd yr adroddiad yn cael ei ddosbarthu i holl Aelodau gan ei fod yn cael ei gynnwys yn rhestr ddarllen ar gyfer y gweithgor.
Dywedodd y Cynghorydd Heesom bod angen mecanwaith i sicrhau bod y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol yn ... view the full Cofnodion text for item 104