Mater - cyfarfodydd

Review of Workforce Pay Model

Cyfarfod: 09/05/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 6)

6 Adolygiad o'r Polisi Cyflogau a'r Model Cyflogau pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas: Darparu adroddiad ar gynnydd ar (1) modelu tâl ar gyfer gweithredu'r ail flwyddyn (2019) o'r cytundeb tâl dwy flynedd y Cyd-Gyngor Cenedlaethol (2018/19-2019/20) a (2) cynnal dyluniad strwythurol a thelerau cyflogaeth yn dilyn Cytundeb Statws Sengl (2014).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad cynnydd ar (1) modelu tâl ar gyfer gweithredu'r ail flwyddyn (2019) o'r cytundeb tâl dwy flynedd y Cyd-Gyngor Cenedlaethol (2018/19-2019/20); a (2) cynnal dyluniad strwythurol a thelerau cyflogaeth yn dilyn Cytundeb Statws Sengl (2014).

 

Darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndir a dywedodd pe bai’r Cyngor yn gweithredu'r ail flwyddyn o gytundeb tâl y Cyd-Gyngor Cenedlaethol yn unol â’r model cenedlaethol ar sail debyg ‘darllen ar draws’, byddai’r model tâl lleol yn cael ei amharu i’r graddau na fyddai'n cyflawni egwyddorion dylunio sefydliadol a pholisi tâl a byddai efallai yn agored i her ar sail anghydraddoldeb rhywedd. O ganlyniad, roedd model tâl presennol y Cyngor wedi’i adolygu i ddarparu’r cytundeb tâl cenedlaethol. 

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol ar fodelu tâl, cynnal a chadw y Cytundeb Statws Sengl a Newid ac Ailgynllunio Sefydliadol. Dywedodd bod blwyddyn 2 cytundeb tâl y Cyd-Gyngor Cenedlaethol yn cynnwys cyflwyno colofn gyflog ‘newydd’ gyda chymathiad i bwyntiau colofn gyflog newydd ac roedd wedi creu newid sylfaenol i’r model tâl / colofn gyflog yn lleol.   Daethpwyd i gytundeb lleol ar fodel tâl dewisedig ym mis Mawrth 2019. Arweiniodd ganlyniad cyffredinol y model newydd at weithrediad colofn gyflog cenedlaethol newydd a ddarparwyd ar ei chyfer fel rhan o’r cytundeb dwy flynedd ac fe arweiniodd hefyd at gyflawni colofn gyflog llyfn, mynd i’r afael â chydraddoldeb tâl a’r bwlch rhwng graddau tâl craidd Cyngor Taleithiol Llundain Fwyaf a graddau tâl uwch Hay.  

 

Esboniodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol bod y model tâl newydd wedi pasio’r profion o fod yn gyfreithiol, yn deg, yn ymarferol, yn gynaliadwy, yn dderbyniol ac yn fforddiadwy.  Gwnaed cyfathrebu cychwynnol i weithwyr ym mis Mawrth. Y dyddiad dod i rym o’r model tâl newydd oedd 1 Ebrill 2019 a’r dyddiad targed ar gyfer gweithredu oedd mis Gorffennaf 2019 (i’w ôl-ddyddio i fis Ebrill 2019). Yn ychwanegol i Asesiad o Effaith ar Degwch mewnol, comisiynwyd Asesiad O Effaith Ar Gydraddoldeb annibynnol. Roedd yr asesiadau’n gadarnhaol ac yn darparu sicrwydd. Dywedodd yr Uwch Reolwr fod cymeradwyaeth derfynol wedi’i rhoi i’r model tâl arfaethedig a’r strwythur graddio gan yr Undebau Llafur cydnabyddedig ym mis Ebrill ac roedd gwaith gweithredu wedi dechrau. Dywedodd mai’r gweithgarwch critigol oedd glanhau data ac adlinio portffolios ar iTrent (system feddalwedd y gweithlu) ac roedd wedi’i gwblhau. Byddai’r model newydd yn cael ei gymhwyso mewn amgylchedd prawf er mwyn ei brofi cyn ei drosglwyddo i amgylchedd byw.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr a’r Uwch Reolwr fod cynnal uniondeb y model tâl yn hanfodol i ddiogelu'r Cyngor rhag hawliadau cyflog cyfartal. Roedd llywodraethu’r prosesau cynnal a chadw a monitro parhaus o’r Cydgytundeb Statws Sengl yn sicrhau bod uniondeb y Cytundeb yn cael ei gynnal a’i gyflawni yn rhannol drwy ddarparu Archwiliadau Tâl Cyfartal a chynlluniau gweithredu yn ychwanegol i ail-ddylunio gwasanaeth.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Billy Mullin at y gwaith anodd a chymhleth a wnaed yn yr Adolygiad o’r Polisi Tâl a’r Model Tâl a mynegodd ei ddiolch i’r Prif Weithredwr ac Uwch Reolwr Adnoddau Dynol  ...  view the full Cofnodion text for item 6