Mater - cyfarfodydd

Review of the Council’s Planning Code of Practice

Cyfarfod: 11/04/2019 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 23)

23 Adolygiad o God Ymarfer Cynllunio'r Cyngor. pdf icon PDF 75 KB

Fel rhan o’r adolygiad treigl y Cyfansoddiad, mae’r Pwyllgor Safonau wedi argymell diweddariadau i God Ymddygiad Cynllunio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynwyd adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro a oedd yn darparu gwybodaeth am yr adolygiad a gynhaliwyd gan Bwyllgor Safonau Cod Ymarfer Cynllunio’r Cyngor.  Roedd y ddogfen hon yn ffurfio rhan o Gyfansoddiad y Cyngor ac yn cwmpasu amrywiaeth o faterion yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio’r Cyngor. Cyfrifoldeb y Pwyllgor Safonau oedd adolygu’r holl brotocolau yn y Cyfansoddiad i sicrhau eu bod yn gyfredol.  Gwallau teipograffyddol oedd yr argymhellion yn bennaf ac roeddent wedi cael eu hamlygu. Y newid mawr cyntaf oedd newid “gall y cynghorydd” i “mae’n rhaid i’r cynghorydd” trwy gydol y ddogfen. Yr ail newid oedd ym mharagraff newydd 4.07 y Cod i amlinellu ymgysylltiad Aelodau’r Cabinet â’r Pwyllgor Cynllunio a’r goblygiadau i fuddiannau personol a rhagfarnol. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Ian Dunbar at 5.5. yn yr adroddiad a cheisiodd eglurhad i p’un a ddylai ef fel aelod lleol geisio cyngor cyn cyfarfod gyda phreswylwyr i drafod cais cynllunio lle byddai gofyn iddo ddarparu cyngor neu ymateb i gwestiynau.   Mewn ymateb, cadarnhaodd y Dirprwy Swyddog Monitro bod yr egwyddor yn parhau yr un fath sef, os yw Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio yn ochri ag un ochr fel Aelod lleol ac yn penderfynu gwrthwynebu datblygiad, yna ni ddylai eistedd fel Aelod o'r Pwyllgor a dim ond ymddangos fel Aelod lleol.


           
Holodd y Cynghorydd Mike Peers sut y cofnodir hyfforddiant aelodau ar gyfer y Pwyllgor Cynllunio i sicrhau bod seddi gwag yn cael eu llenwi’n brydlon o bob plaid wleidyddol. Awgrymodd ef y byddai’n ddarbodus i fwy o Aelodau gael eu hyfforddi i eistedd ar y Pwyllgor ac nid fel dirprwyon yn unig.Yna cyfeiriodd at y newidiadau a wnaethpwyd gan y Pwyllgor Safonau a gofynnodd a ddylai'r ddogfen gael ei rhoi i'r Gr?p Strategol Cynllunio cyn y Cyngor Sir rhag ofn bod mwy o newidiadau yr hoffent eu gwneud. Awgrymodd y dylid newid argymhelliad rhif 2 i ddweud y dylai’r Cod Ymarfer Cynllunio gael ei adrodd wrth y Gr?p Strategol Cynllunio cyn y Cyngor Sir.  Mewn ymateb i hynny, cytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro ei fod yn syniad da i’r Gr?p Strategol Cynllunio ystyried y Cod Ymarfer ond roedd yr adroddiad hwn yn rhan o adolygiad y Pwyllgor Safonau ar faterion yn ymwneud â chod ymddygiad o fewn y Cod Ymarfer a dyna pam y daeth at y Pwyllgor hwn cyn y Cyngor Sir. Awgrymodd ef, pe bai adroddiad ar wahân yn cael ei roi i’r Gr?p Strategol Cynllunio i edrych ar newidiadau eraill, gallai hynny achosi oedi cyn i’r adroddiad fynd i’r Cyngor Sir.

 

Cytunodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd gyda sylwadau'r Cynghorydd Peers ond dywedodd mai newidiadau bach oedd y rhain. Cyfeiriodd at bwynt 4.7 yn yr adroddiad.  Roedd ef wedi gofyn yn bersonol i'r pwynt hwn gael ei gynnwys i ddarparu eglurhad i Aelodau'r Cabinet ac Aelodau. Nid oedd unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i’r Polisi ond penderfyniad y Pwyllgor oedd a ddylai’r ddogfen gael ei rhoi i’r Gr?p Strategol Cynllunio cyn y Cyngor Sir.

 

            Holodd y Cynghorydd Ian  ...  view the full Cofnodion text for item 23