Mater - cyfarfodydd

Officers Code of Conduct

Cyfarfod: 18/06/2019 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 25)

25 Cod Ymddygiad Swyddogion pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Fel rhan o’r adolygiad treigl y Cyfansoddiad, mae’r Pwyllgor Safonau wedi argymell diweddariadau i God Ymddygiad Swyddogion.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i gymeradwyo’r diweddariadau i God Ymddygiad Swyddogion fel rhan o adolygiad treigl o’r Cyfansoddiad. Eglurodd fod y Pwyllgor Safonau’n gyfrifol am adolygu’r holl godau a Phrotocolau (yn ymwneud ag ymddygiad) yn y Cyfansoddiad unwaith bob tymor i sicrhau eu bod yn dal yn berthnasol a chyfredol. Roedd y Pwyllgor wedi adolygu Cod Ymddygiad Swyddogion ac wedi gwneud argymhellion i’w ddiweddaru. Awgrymwyd nifer o newidiadau, fel y manylir yn yr adroddiad, er mwyn ehangu ar y canllawiau’n dweud pryd mae angen iddynt ddatgan cysylltiad; cyfeirio at ffurflenni safonedig a grëwyd o’r newydd i gofnodi buddiannau a thoddion; ehangu ar y canllawiau ar gyflogaeth y tu allan; a diweddaru cyfeiriadau at swyddi a geirdaon gwasanaeth os ydynt wedi newid. Atodwyd y newidiadau arfaethedig i’r Cod at yr adroddiad. 

 

            PENDERFYNWYD:

 

            Cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i’r canllawiau eglurhaol yng Nghod Ymddygiad Swyddogion.