Mater - cyfarfodydd

Annual Directors Report

Cyfarfod: 06/06/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 5)

5 Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwyr pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:  Ystyried Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwyr ar gyfer Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol 2018/19

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad am Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ar gyfer 2018/19. Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd mai pwrpas Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol oedd nodi’r daith tuag at welliant a gwerthuso perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth ddarparu gwasanaethau i bobl sydd yn hybu eu lles ac yn eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau personol.

 

   Atodwyd yr adroddiad i Adroddiad Blynyddol drafft y Gwasanaeth Cymdeithasol 2018/19, gyda’r bwriad o roi darlun gonest o wasanaethau yn Sir y Fflint i’r cyhoedd, y rheoleiddiwr a budd-ddeiliaid ehangach, a dangos dealltwriaeth glir o’r cryfderau a’r heriau a wynebir. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r adroddiad yn ffurfio rhan bwysig o werthusiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGGCC) o berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint. Roedd y gwerthusiad hefyd yn hysbysu asesiad Swyddfa Archwilio Cymru o Gyngor Sir y Fflint fel rhan o’r adroddiad gwella blynyddol. 

 

Eglurodd y Prif Swyddog y paratowyd yr Adroddiad Blynyddol yn dilyn adolygiad trylwyr o berfformiad presennol gan Uwch Dîm Rheoli Gwasanaethau Cymdeithasol, Rheolwr Gwasanaeth a Swyddogion Perfformiad.  Roedd y blaenoriaethau gwella o fewn yr adroddiad yn alinio â'r blaenoriaethau sydd wedi’u cynnwys yng Nghynllun Busnes y Portffolio, Cynllun Gwella’r Cyngor a chynlluniau effeithlonrwydd cysylltiedig.  Fe soniodd y Prif Swyddog am y blaenoriaethau gwella a nodwyd ar gyfer 2019/20, fel y manylir arnynt yn yr adroddiad.

 

Diolchodd y Cynghorydd David Healey i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu gwaith ac am adroddiad cynhwysfawr. Fe soniodd am yr argyfwng ym maes gofal iechyd parhaus mewn rhai ardaloedd o’r Deyrnas Unedig a’r risg i ddarpariaeth gwasanaethau gofal yn y sector preifat oherwydd diffyg cyllid. Gofynnodd a oedd yr Awdurdod hefyd mewn perygl a pha gefnogaeth oedd yn cael ei ddarparu i gynorthwyo pobl i aros yn annibynnol a pharhau i fyw yn eu cartrefi ac yn benodol, cleifion oedd yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty.  Fe awgrymodd y dylid edrych ar y meini prawf i fod yn gymwys am ofal yn y cartref i alluogi rhagor o bobl i dderbyn cefnogaeth gan ddarparwyr gofal er mwyn gwneud addasiadau i’w cartrefi.  Diolchodd y Prif Swyddog i’r Cynghorydd Healey am ei sylwadau cadarnhaol ac wrth ymateb i’w gwestiynau dywedodd fod y risg i wasanaethau gofal sy’n cael eu darparu yn y sector ehangach oherwydd diffyg cyllid yn real i’r Awdurdod ac yn genedlaethol. Fe soniodd am yr achos diweddar o lobïo gan y Prif Weithredwr a’r Aelodau i Lywodraeth Cymru  i ofyn am ragor o gyllid ar gyfer gwasanaethau  allweddol i awdurdodau lleol gan ddweud nad oedd y cyllid presennol yn gynaliadwy.    

 

Wrth grynhoi, rhoddodd y Prif Swyddog sicrwydd yngl?n â darpariaeth gwasanaethau gofal cymdeithasol yn Sir y Fflint. Ymatebodd yr Uwch-reolwr, Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion i gwestiwn gan y Cynghorydd Healey yngl?n â chefnogaeth i helpu pobl aros yn annibynnol a pharhau i fyw gartref a chyfeiriodd at ail-alluogi pan fydd pobl yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty, ailgylchu cymhorthion a chyfarpar i gynorthwyo ag annibyniaeth, a grantiau cyfleusterau i'r anabl.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod  ...  view the full Cofnodion text for item 5