Mater - cyfarfodydd
Welfare Reform Update
Cyfarfod: 26/06/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 6)
6 Diweddariad am Ddiwygio’r Gyfundrefn Les PDF 381 KB
Pwrpas: I roi diweddariad ar effaith Diwygio’r Gyfundrefn Les ar breswylwyr Sir y Fflint.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr
Budd-daliadau Sian Humphreys a Dawn Barnes a arweiniodd y tîm
Ymateb Lles. Fe wnaethant roi cyflwyniad ar waith eu tîm i
gefnogi cartrefi yr oedd y diwygiadau yn effeithio arnynt, a oedd
yn ymdrin â'r canlynol:
· Cefndir
· Effeithiau cyfredol Diwygiadau Lles
· Cyfran uchaf y preswylwyr yr effeithiwyd arnynt gan y ‘Dreth Ystafell Wely’
· Llwyth achosion Credyd Cynhwysol (UC)
· Aelwydydd y mae'r Cap Budd-daliadau yn effeithio arnynt
· Cefnogaeth Tîm Diwygio Lles
· Taliadau Tai Dewisol (DHP)
· Ebrill 2019 - Beth Newidiodd
· Ymgysylltu rhagweithiol
· Astudiaeth achos
Dangosodd y dadansoddiad mai
Treth Ystafell Wely oedd yr effaith fwyaf o hyd ar breswylwyr yn
Sir y Fflint, gan effeithio ar 677 o aelwydydd ym mis Mawrth 2019.
Dyfarnwyd cyfanswm o 979 o geisiadau DHP yn 2018/19, a nodwyd y
Dreth Ystafell Wely fel y prif reswm. Dull cyfannol y tîm
oedd archwilio pob opsiwn i gefnogi unigolion gan gynnwys ymyrraeth
gynnar a helpodd i liniaru'r effaith ar wasanaethau eraill, er
enghraifft atal digartrefedd. Roedd y penderfyniad gan yr Adran
Gwaith a Phensiynau (DWP) yn golygu bod Cymorth Cyffredinol yn cael
ei ddarparu bellach gan Cyngor ar Bopeth drwy’r broses
‘Help i Hawlio’.
Ailadroddodd y Cynghorydd Shotton ei bryderon ynghylch y broses Help i Hawlio a oedd yn eithrio cymorth cyllidebu personol, sydd mawr ei angen. Siaradodd y Rheolwr Budd-daliadau am ba mor bwysig yr ydoedd i'r tîm barhau â'r gefnogaeth honno, er heb gyllid gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Er na phennwyd canlyniadau'r broses Help i Hawlio ar hyn o bryd, roedd pryderon mai dim ond tan y dyddiad pan dderbyniodd cwsmeriaid eu taliad Credyd Cynhwysol llawn cyntaf y darparwyd y gefnogaeth.
Wrth dynnu sylw at
bwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o waith y tîm, awgrymodd y
Cynghorydd Dolphin y gallai'r Aelodau helpu neu y gallai'r
tîm ymgysylltu'n uniongyrchol â thrigolion mewn
digwyddiadau cymunedol lleol. Dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau fod
y tîm yn bwriadu mynychu dwy ?yl leol sydd ar y gorwel ac
roedd hi'n croesawu ceisiadau iddynt fynd i ddigwyddiadau tebyg. Ar
y model Help i Hawlio, roedd mynediad at ddata yn broblem ond
byddai'r tîm yn parhau i fonitro cynnydd. O ran y Dreth
Ystafell Wely, cytunodd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y
bobl sy'n aros i symud i lety llai, gan gynnwys y 58 o bobl yr
adroddwyd amdanynt ym mis Hydref 2017. Er mai datrysiad tymor byr
oedd DHP, parhaodd y gefnogaeth honno os nad oedd opsiwn arall ar
gael.
Awgrymodd y Cynghorydd Brown y gellid cynnwys taflen ar fentrau fel y Cynllun Lleihau Treth y Cyngor (CTRS) gyda biliau Treth y Cyngor a Datganiadau Rhent, a gellid ei dosbarthu mewn cynlluniau chwarae haf. Dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau fod y gostyngiad mewn hawliadau CTRS wedi bod yn bryder a bod hawlwyr cymwys yn cael eu tracio a'u monitro i helpu gydag ailgyflwyno hawliadau. Roedd hyrwyddo'r CTRS yn cael ei symud ymlaen trwy weithgor mewnol a fyddai'n croesawu syniadau gan yr Aelodau.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Brown hefyd at nifer y tenantiaethau diogelu sy'n derbyn cefnogaeth gan y tîm ... view the full Cofnodion text for item 6