Mater - cyfarfodydd
Review of Procurement Strategy
Cyfarfod: 22/10/2019 - Cabinet (eitem 76)
76 Adolygiad o'r Strategaeth Gaffael PDF 123 KB
Pwrpas: Cytuno ar y diweddariadau i’r ddogfen ac i gefnogi'r ddau nod o gontractau cydweithio gwell gyda Chyngor Sir Ddinbych a phryniant mwy lleol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ar yr Adolygiad o’r Strategaeth Gaffael ac esboniodd, er fod y strategaeth yn weithredol o 2016 i 2021, gwnaethpwyd rhai newidiadau yng nghyd-destun y polisi ehangach a oedd yn cyfiawnhau cynnal adolygiad r?an.
Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y newidiadau sylweddol ers mabwysiadu’r strategaeth fel a ganlyn:
1. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesol mewn Cadwyni Cyflenwi ac roedd y Cyngor yn ei ddilyn;
2. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Ffyniant i Bawb – Cymru Carbon Isel, a oedd yn ymrwymo’r sector cyhoeddus i fod yn garbon niwtral erbyn 2030; a
3. Mae’r Cyngor wedi diwygio ei ddull ei hun o ran cyflawni gwerth cymdeithasol o gaffael drwy fabwysiadu polisi gwerth cymdeithasol newydd yn gynharach yn y flwyddyn.
Roedd rhaid i’r newidiadau hynny gael eu hadlewyrchu o fewn y Strategaeth Gaffael a'r mesuryddion perfformiad o fewn y Strategaeth.
Croesawodd yr Aelodau yr adroddiad, yn enwedig ymrwymiad y Cyngor i Ffyniant i Bawb – Cymru Carbon Isel a oedd yn ymrwymo’r sector cyhoeddus i ddarparu arweinyddiaeth ar leihau effaith dyn ar newid hinsawdd drwy leihau ei ôl troed carbon.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai’n gofyn i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) a oedd y nod i geisio cynyddu’r effaith yr oedd gwariant yn ei gael o fewn yr economi leol drwy gyfeirio gwariant i fusnesau o fewn Sir y Fflint ac yn ehangach o fewn yr ardal ddaearyddol o Gynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, yn ddwyochrog.
PENDERFYNWYD:
(a) Mabwysiadu’r Strategaeth Gaffael ddiwygiedig; a
(b) Bod adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno yn ôl i’r Cabinet ar y newidiadau arfaethedig i’r Strategaeth Gaffael er mwyn lleihau ôl troed carbon y Cyngor.