Mater - cyfarfodydd

Flintshire County Council's Response to the Welsh Government White Paper 'Improving Public Transport'

Cyfarfod: 19/03/2019 - Cabinet (eitem 327)

327 Ymateb Cyngor Sir y Fflint i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru 'Gwella Cludiant Cyhoeddus' pdf icon PDF 74 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i'r ymateb i Lywodraeth Cymru ar eu Papur Gwyn Cludiant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad Ymateb Cyngor Sir y Fflint i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ‘Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus’ a oedd yn cynnwys ymateb ffurfiol y Cyngor i’r Papur Gwyn.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Thomas bod angen adolygiad i arbed cludiant bysiau ac roedd Llywodraeth Cymru yn ystyried defnyddio grymoedd datganoledig i ddiwygio deddfwriaeth a rheoleiddio darpariaeth bysiau, gan roi’r grymoedd i awdurdodau lleol i gynnal eu gwasanaethau bysiau eu hunain, ac roedd hi’n croesawu hyn.

 

            Roedd gweithredwyr masnachol yn gwneud penderfyniadau busnes i gynnal y gwasanaethau mwyaf effeithlon a masnachol hyfyw yn unig a oedd yn golygu bod ardaloedd yn cael eu gadael heb wasanaeth -  roedd hyn yn effeithio ar bobl ddiamddiffyn, yr henoed, pobl anabl ac unigolion nad oedd yn berchen ar gar. Roedd yn teimlo ei bod yn bwysig i bobl aros yn annibynnol, symudol ac yn egnïol, a oedd yn her i’r Cyngor ac hefyd i Lywodraeth Cymru.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) fod y Pwyllgor Trwyddedu wedi derbyn ymateb drafft yn y cyfarfod ym mis Ionawr lle y derbyniodd gefnogaeth lawn.  Ychwanegodd, mewn perthynas â thrwyddedu, fod safonau cenedlaethol wedi eu cefnogi’n llawn, ond ar hyn o bryd, nid oedd manylion wedi eu cynnwys yn y Papur Gwyn o ran sut y byddai’r Cyd Gytundeb Cludiant yn cyflawni’r swyddogaeth drwyddedu – teimlwyd felly y dylai gorfodi a gweithrediad ddigwydd ar lefel lleol.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Shotton ei bod yn hen bryd am yr adolygiad a phwysleisiodd bwysigrwydd y ddogfen ymgynghori.

           

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r ymateb i ddogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru ‘Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus’.