Mater - cyfarfodydd
Constitutional Matters: Committees
Cyfarfod: 07/05/2019 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 9)
9 Materion Cyfansoddiadol: Pwyllgorau PDF 117 KB
Pwrpas: Delio â'r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â rheol 1.1 (vii)-(xiii) Gweithdrefn y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Political balance, eitem 9 PDF 52 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Materion Cyfansoddiadol: Pwyllgorau
Cofnodion:
Bu’r Cyngor yn ystyried adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a oedd yn ymdrin â materion yr oedd gofyn gwneud penderfyniad arnynt yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir yn unol â Rheol 1.1 (vii) – (xiv) o Weithdrefnau’r Cyngor. Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, gyda phob un yn delio ag un penderfyniad yr oedd angen ei wneud a’r materion perthnasol i’w hystyried. Trafodwyd a phleidleisiwyd ar bob adran yn ei thro.
(i) Penodi Pwyllgorau
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn darparu ar gyfer penodi’r canlynol:Pwyllgor Archwilio; Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd; Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd; Cydbwyllgor Llywodraethu (dros Bensiynau); Pwyllgor Trwyddedu; Pwyllgor Cynllunio; Pwyllgor Safonau; a’r chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu. Roedd angen penodi’r Pwyllgor Cwynion a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu hefyd fel y cytunwyd yn y cyfarfod blaenorol.
Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom am eglurhad yngl?n â’r angen i benodi Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu pan oedd y Pwyllgor Safonau eisoes wedi’i sefydlu. Dywedodd y Prif Swyddog, er bod y Pwyllgor Safonau’n ystyried unrhyw achosion o gynghorwyr yn torri’r Cod Ymddygiad, roedd yn ofynnol sefydlu pwyllgor ar wahân i ystyried materion disgyblu yn ymwneud â swyddogion, yn benodol y swyddogion statudol a enwyd fel y nodir yn y ddeddfwriaeth. Gofynnodd y Cynghorydd Heesom am fanylion y swyddogion y byddai hyn yn berthnasol iddynt. Cytunodd y Prif Swyddog i gyflenwi enw’r swyddogion yr oedd eu swyddi wedi’u nodi yn yr adroddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Chris Bithell y dylid cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad, ac eiliodd y Cynghorydd Ian Roberts.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol:
Pwyllgor Archwilio
Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd
Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd
Cydbwyllgor Llywodraethu (dros Bensiynau)
Pwyllgor Trwyddedu
Pwyllgor Cynllunio
Pwyllgor Safonau
Y chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu a restrir ym mharagraff 1.01
Pwyllgor Cwynion (penodwyd ar 9 Ebrill 2019)
Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu
(ii) Pennu maint Pwyllgorau
Eglurodd y Prif Swyddog fod angen penderfynu ar faint pob pwyllgor yn y Cyfarfod Blynyddol. Roedd manylion y ddarpariaeth ar gyfer maint y Pwyllgorau i’w gweld yn yr adroddiad, gan gynnwys argymhelliad gan y Pwyllgor Archwilio i gynyddu ei faint i ganiatáu derbyn aelod lleyg ychwanegol.
Wrth gyfeirio at bwysigrwydd y Pwyllgor Archwilio, galwodd y Cynghorydd Heesom am roi ystyriaeth bellach i faint ei aelodaeth i gynnwys cynrychiolaeth ehangach ymysg yr Aelodau, yn enwedig os ceid cynnydd yn nifer yr aelodau lleyg. Gofynnodd a fyddai’r Arweinydd yn ystyried gohirio penderfyniad ar y pwyllgor penodol hwnnw er mwyn caniatáu amser i drafod ymhellach.
Eglurodd y Prif Swyddog y byddai penderfyniad o’r fath yn arwain at ohirio cyfarfod nesaf y Pwyllgor Archwilio er mwyn gallu gwneud penderfyniad ar yr eitem yng nghyfarfod nesaf y Cyngor ym mis Mehefin.
O ran y cyfyngiadau deddfwriaethol ar aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio, tynnodd y Cynghorydd Mike Peers sylw at y rheolau ar gynrychiolaeth wardiau Aelodau amryfal fel y nodir yn adran Cydbwysedd Gwleidyddol yr adroddiad.
Mewn ymateb i’r Cynghorydd Heesom, cydnabu’r Cynghorydd Roberts fanteision cael aelodau lleyg yn gwasanaethu ar Bwyllgorau a chynigiodd fod nifer y ... view the full Cofnodion text for item 9