Mater - cyfarfodydd
Aura Progress Review
Cyfarfod: 13/05/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 7)
Adolygiad Cynnydd Aura
Pwrpas: Adolygu cynnydd Aura ers iddo sefydlu yn 2017
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (7/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (7/3)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i alluoga’r Pwyllgor adolygu cynnydd Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyfyngedig ers ei sefydlu fis Medi 2017.Darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndir a chyd-destun a gwahoddodd Mike Welch, Rheolwr Gyfarwyddwr, a Neil Williams, Ysgrifennydd y Cwmni, i adrodd ar berfformiad Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyfyngedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (2018/19), a’r Cynllun Busnes a’r rhagamcaniadau ariannol ar gyfer 2019/20.
Rhoddodd y Rheolwr Gyfarwyddwr ac Ysgrifennydd y Cwmni gyflwyniad a oedd yn ymdrin â’r prif bwyntiau:
· Diweddariad Gweithrediaeth Aura
· Canolfan Hamdden yr Wyddgrug
· Pafiliwn Jade Jones
· Llyfrgelloedd
· Perfformiad Ariannol 2018/19
· Cyfarfod Blynyddol
· Cynllun Busnes Aura 2019/23
Siaradodd y Cynghorydd Tudor Jones am y gwerth a’r gwasanaeth ardderchog a ddarperir gan y Gwasanaeth Llyfrgell Teithiol i gymunedau a llongyfarchodd y Rheolwr Gyfarwyddwr a’i dîm am y gwelliannau i’r gwasanaethau.
Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau am gyllid, polisi cyflogau, Cyflog Byw Cenedlaethol, pensiynau, recriwtio a chadw staff, marchnata, trefniadau llywodraethu a meysydd parcio.Gofynnodd y Cynghorwyr Paul Shotton ac Ian Dunbar am ddiweddariad ar Neuadd Chwaraeon Cei Connah.
Yn ystod y drafodaeth dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor yn parhau i feithrin perthynas agos a rhagweithiol gyda Bwrdd a Thîm Rheoli Aura a bod Aura yn dda iawn am gynnwys y Cyngor yn ei benderfyniadau busnes. Dywedodd y byddai’r Cyngor yn parhau i chwarae rhan lawn wrth gefnogi’r sefydliad i gynnal y perfformiad yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Llongyfarchodd yr Aelodau’r Rheolwr Gyfarwyddwr a’i dîm ar y cynnydd a'r cyflawniadau gan gyfeirio at berfformiad llwyddiannus y cwmni.
Diolchodd y Cadeirydd i Mike Welch a Neil Williams am eu cyflwyniad ac am ateb cwestiynau'r Aelodau.
Gofynnodd y Cynghorydd Tudor Jones am sicrhau bod mecanweithiau cefnogi ar gael ar gyfer Gwasanaethau Model Darparu Amgen o fewn y sir er mwyn sicrhau eu llwyddiant parhaus.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd David Wisinger a’u heilio wedi hynny.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cydnabod cynnydd Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyfyngedig ers ei sefydlu fis Medi 2017 ac yn canmol ei berfformiad; a
(b) Nodi’r heriau ynghlwm wrth gynnal perfformiad y busnes;
(c) Bod y Cyngor ac Aura yn trafod dyfodol Canolfan Hamdden Cei Connah gydag Aelodau Lleol;
(d) Darparu cefnogaeth i Fodelau Darparu Amgen o fewn y sir er mwyn sicrhau eu llwyddiant parhaus.