Mater - cyfarfodydd
The function and process of Delayed Transfer of Care from a hospital setting
Cyfarfod: 28/03/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 58)
58 Swyddogaeth a phroses Oedi wrth Drosglwyddo Gofal o leoliad ysbyty PDF 92 KB
Pwrpas: Diweddaru aelodau mewn cysylltiad â pherfformiad Sir y Fflint o ran oedi wrth drosglwyddo gofal.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Delayed Transfer of Care/Single Point of Access, eitem 58 PDF 22 KB
- Enc. 2 for Delayed Transfer of Care/Single Point of Access, eitem 58 PDF 89 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad ar rôl a swyddogaeth y broses Oedi Wrth Drosglwyddo Gofal, strwythur gwaith cymdeithasol yn yr ysbyty a’i gydweithrediad â chydweithwyr Iechyd. Roedd oedi wrth drosglwyddo gofal yn digwydd pan fo claf yn barod i gael ei ryddhau o’r ysbyty i leoliad arall tu hwnt i’r dyddiad y cytunwyd gan y clinigydd arweiniol.
Roedd yr adroddiad yn nodi amrywiaeth o weithgareddau i leihau oedi o ran rhyddhau o’r ysbyty a oedd yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer y gwasanaeth. Er bod cynnydd bychan wedi bod yn niferoedd oedi wrth drosglwyddo gofal ers y llynedd ar gyfer pobl dros 75 mlwydd oed, roedd perfformiad Sir y Fflint yn dda ar draws cynghorau Gogledd Cymru. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod dadansoddiad o gategorïau oedi wrth drosglwyddo gofal ar gael ar gais.
Darparodd yr Uwch Reolwr, Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion fanylion am y cyfrifiad misol yn cynnwys casglu data gan dri ysbyty aciwt lleol a fyddai’n cynnwys data o Ysbyty Iarlles Caer o fis Ebrill. Roedd y cynnydd bychan i ffigyrau oedi wrth drosglwyddo gofal eleni o ganlyniad i’r nifer cynyddol o atgyfeiriadau a’r materion cymhleth cysylltiedig.
Cyflwynwyd yr Aelodau i'r Rheolwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Cyswllt Cyntaf ac Ardal Leol (Janet Bellis) a eglurodd fod y mwyafrif a oedd yn mynd i’r ysbyty bellach yn oedrannus gyda llawer iawn o gyflyrau iechyd a rhwydwaith cymorth teulu a oedd yn lleihau. Roedd y timau Gwaith Cymdeithasol ar draws y tri ysbyty yn cael eu cylchdroi yn ôl galw uchel, fodd bynnag roedd y tri ysbyty yn aml ar rybudd coch. Roedd y protocol rhyddhau o’r ysbyty yn cynnwys dull amlasiantaeth i gwrdd â disgwyliadau pobl i aros gartref am gyn hired â phosib.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y codau oedi wrth drosglwyddo gofal a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad a gofynnodd am ddadansoddiad o’r rhesymau dros y 44 achos o oedi wrth drosglwyddo unigolion yn ystod y flwyddyn bresennol. Esboniodd y Swyddogion, ymhlith yr holl godau oedi wrth drosglwyddo gofal, bod y mwyafrif yn ymwneud â’r rheiny yng nghategori 2, ‘trefniadau gofal yn y gymuned’, er enghraifft, problemau yn ymwneud â thai neu ofal yn y cartref, trefniadau lleoliadau gofal preswyl ac ati. Dywedodd y Cadeirydd nad oedd y Pwyllgor wedi derbyn diweddariad ar addasiadau Grant Cyfleusterau i’r Anabl ers peth amser. Dywedodd y Swyddogion fod lleoliadau ‘camu i lawr’ yn cael eu darparu pan fo oedi wrth drosglwyddo wedi digwydd achos bod unigolyn yn aros am addasiadau o’r fath.
Canmolodd y Cynghorydd Mackie wybodaeth y swyddogion ar y mater. Dywedodd bod y ffigyrau a adroddwyd gan Ystadegau Cymru yn dangos bod y rhan fwyaf o achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn ymwneud â phroblemau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor ac y dylid tynnu sylw at ymagwedd ragweithiol y Cyngor. Awgrymodd y dylid cynnwys eitem ar weithgareddau a oedd o gymorth i gadw unigolion o’r ysbyty ar y rhaglen yn y dyfodol.
Mewn ymateb i bryderon gan y Cynghorydd McGuill am heriau rhyddhau o’r ysbyty drwy’r ... view the full Cofnodion text for item 58